Jump to content

09 Medi 2019

Youth Shedz yn cefnogi pobl ifanc yng Ngogledd Cymru

Youth Shedz yn cefnogi pobl ifanc yng Ngogledd Cymru
Fel rhan o weledigaeth y sector o ran gorwelion tai, mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, gan ddarparu cyfleoedd a helpu pobl i fod yn fwy ffyniannus.


Cafodd prosiect Youth Shedz yn Sir Ddinbych ei ddatblygu gan Grŵp Cynefin i gefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed a fu'n ddigartref yn y gorffennol.


Dywedodd Scott Jenkinson, mentor Youth Shedz:


"Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc fregus i fagu hyder a meithrin sgiliau cyflogaeth a rhoi lle diogel i aelodau, a gaiff eu galw'n 'Shedderz'. Cafodd ei sefydlu yn dilyn ymchwil i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda'r syniad yn dod wedyn i ddarparu lle diogel i bobl ifanc fod yn gynhyrchiol ynddo.


Mae’r ‘Shedderz’ yn arwain ar bob penderfyniad sy’n ymwneud â datblygiad y cynllun, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys gwaith coed a thrwsio beiciau, yn ogystal â dilyn cymwysterau gydag achrediad fel llythrennedd ddigidol, gwirfoddoli a gwaith tîm.


Mae Youth Shedz hefyd yn ganolfan ar gyfleoedd ymgysylltu cadarnhaol, fel hyrwyddo bod yn egnïol drwy gysylltu gyda chynlluniau Chwaraeon Cymru, Hyfforddiant Cymdeithasol a chodi arian ar gyfer elusennau lleol a byd-eang.


Bellach, mae mwy o ganolfannau Youth Shedz wedi eu sefydlu yn Abergele, Bae Colwyn, a Bae Cinmel, sy'n dangos yn glir pa mor boblogaidd yw'r prosiect..


Heddiw mae Youth Shedz yn sefydliad di-elw llawn, a gall barhau i helpu'r genhedlaeth iau i aros allan o drafferthion ac oddi ar y strydoedd."


Darllenwch fwy am ein gweledigaeth yma.



Mae gorwelion tai yn un o'r tirnodau pwysicaf o'r 30 mlynedd diwethaf. Mae llawer mwy wedi digwydd ond! Gweler ein llinell amser isod:





Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).