Jump to content

06 Awst 2019

Yng Nghymru, gallwn a byddwn yn gwneud gwahaniaeth o ran yr agenda newid yn yr hinsawdd

Yng Nghymru, gallwn a byddwn yn gwneud gwahaniaeth o ran yr agenda newid yn yr hinsawdd
Mynychodd Neil Barker, Cyfarwyddwr Cynghrair Caffael Cymru ein Cynhadledd Carbon Isel gyntaf y mis diwethaf, ac fe’i hysbrydolwyd gan y synau cadarnhaol a ddaeth o’r sector.


Ar amser o her gwleidyddol, amheuthun yw gweld fod ewyllys gwleidyddol go iawn yng Nghymru i wneud rhai newidiadau cadarnhaol.


Ar 18 Gorffennaf treuliais y diwrnod yng Nghynhadledd Carbon Isel CHC yng Nghaerdydd lle'r oedd teimlad pendant ein bod i gyd yn hyn gyda'n gilydd ac y gallem, ac y byddem, gyda'n gilydd yn gwneud gwahaniaeth. Roedd hefyd yn ddiddorol cael safbwynt yr Iseldiroedd o sesiwn Dolf Neilem am sector tai y wlad honno.


Roedd hyn yn dilyn mynychu'r cyflwyniad ynghynt yn y dydd gan Chris Jofeh o Lywodraeth Cymru am yr adroddiad a gomisiynwyd, Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Mae'r grŵp ymgynghori annibynnol, a gadeirir gan Chris, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i raglen 30 mlynedd i ostwng allyriadau carbon o dai.


Mae'n galonogol iawn bod yn edrych ymlaen gydag ymagwedd mor gadarnhaol a chydweithredol at faterion byd go iawn fel newid yn yr hinsawdd a'r sector tai. Yn sicr yn hollol wahanol i'r newyddion min nos!


Gan dderbyn yr adroddiad dechreuodd Julie James, y Gweinidog Tai, yn gadarnhaol iawn ar yr agenda datgarboneiddio ac yn gynharach ym mis Gorffennaf derbyniwyd holl argymhellion heblaw un yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.


Fel sefydliad llywodraeth leol gyda chenhadaeth sy'n anelu i wella pethau heb agenda gwneud elw, mae Cynghrair Caffael Cymru yn falch ein bod yn ymddangos yn gydnaws gyda'r ymdeimlad cyffredinol o amgylch sector tai Cymru. Yn neilltuol buom yn cael cyfarfodydd cadarnhaol iawn yn ddiweddar o amgylch y cynlluniau sydd gennym yn eu lle i sefydlu fframweithiau newydd i gynorthwyo cymdeithasau tai a chynghorau i ddarparu gwaith adnewyddu tai a gwaith datgarboneiddio.


Rhoddodd pwyllgor gwaith aelodau'r WPA adborth da i ni yn ystod yr wythnos flaenorol ac yn fwy diweddar, cyfarfu'r tîm WPA gyda dros 25 o gontractwyr o bob rhan o Gymru i siarad am ein cynlluniau ar gyfer y fframweithiau newydd. Gobeithiwn y bydd mwyafrif y cwmnïau hyn yn cynnig am y gwahanol ffrydiau gwaith ar draws gwahanol fandiau gwerth a lotiau rhanbarthol. Mae Hysbysiad Contract adnewyddu tŷ cyfan bellach erbyn hyn, felly sicrhewch fod eich hoff gontractwyr lleol yn cysylltu â ni fel y gallwn eu rhoi ar ben y ffordd.


Bydd fframwaith adnewyddu tŷ cyfan yn fyw erbyn mis Ionawr 2020, os aiff popeth yn ôl y cynllun gyda'r broses gaffael, ac erbyn mis Ebrill 2020 anelwn gael y fframwaith datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni yn ei le.


Af ar fy ngwyliau wedi fy nghalonogi fod gennym lawer o waith da i'w wneud ar ôl seibiant yr haf.