Jump to content

04 Gorffennaf 2017

Yn y flwyddyn 2036...




Ni all unrhyw brosiect ymchwil fodloni pawb ond fe gollodd Gorwelion Tai CHC anferth o gyfle i gyfeirio at ddaroganau record Rhif Un Zager &Evans In the Year 2525:


In the year 2525 if man is still alive
If woman can survive they may find…


Yn lle hynny gofynnwyd i Savills beintio darlun o sefyllfa'r sector tai mewn ugain mlynedd. Felly yn y flwyddyn 2036 beth wnaethon nhw ganfod? Fe welsant y byddai angen 174,000 o gartrefi ychwanegol i gartrefu poblogaeth sy'n heneiddio, ac un lle byddai'r cynnydd mwyaf yn nifer yr aelwydydd person sengl.


Yr her sy'n wynebu swyddogion tai yng Nghymru yw sut i fynd ati i drin yr angen cynyddol a newidiol hwn. Fodd bynnag, er mor ddefnyddiol yw pecyn ardderchog Adnoddau Data, byddai’n annoeth rhoi gormod o bwysau ar syllu ar y dyfodol. Yn wir, byddwn yn awgrymu y byddai'n well i ni edrych ar y gorffennol a pheidio ailadrodd y camgymeriadau a wnaethom y tro diwethaf wrth i ni geisio mynd i'r afael â phrinder tai cronig ac angen cynyddol am gartrefi.


Dim ond i ddechrau'r 1970au mae'n rhaid i ni edrych yn ôl - pan oedd hit Zager & Evans yn dal i werthu ar feinyl 7% a chynlluniau tai arloesol fel Tŵr Grenfell yn agosau at gael ei gorffen. Pa bynnag lun enbyd mae'r data yn ei ragweld mae'n rhaid i ni wrthod yr awydd i chwarae'r gêm rhifau. Mae'n rhaid i ni gadw'n gryf a dal ati i ddarparu cartrefi o'r ansawdd uchel, mwyaf diogel a mwyaf hygyrch ar gyfer y rhai na fedrai fel arall gael mynediad i'r farchnad tai.


Bydd rhai ohonom wedi ymddeol o'r sector tai erbyn 2036 ond bydd y penderfyniadau a wnawn nawr mewn ymateb i Gorwelion Tai yn real iawn. Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn wneud yn siŵr ein bod yn ateb gofynion y dyfodol. Drwy gofio'r gorffennol gallwn wneud yn wir nad ydym yn adeiladu problemau ar gyfer y dyfodol.


Yn y flwyddyn 2036 ... efallai y byddant yn gweld i ni ei chael hi'n iawn y tro yma.





Stephen Cook
Prif Weithredydd, Tai Cymoedd i Arfordir


@StephenCookV2C