Jump to content

25 Gorffennaf 2019

Ymyriad gynnar yn allweddol i cefnogi tenantiaid

Ymyriad gynnar yn allweddol i cefnogi tenantiaid
Mae cefnogi tenantiaid yn ganolog i waith cymdeithasau tai yng Nghymru ac mae'r tîm yng Nghymdeithas Tai Rhondda yn gwybod yn union pa mor bwysig yw ymyriad wrth feithrin ymddiriedaeth a sefydlu perthynas. Mae Viki Morgan, y Swyddog Cynaliadwyedd Tenantiaeth, yn dweud mwy wrthym am eu rhaglen Get Set.


"Get Set yw ein rhaglen ymyriad a chefnogaeth cynnar ar gyfer tenantiaid newydd a ddechreuodd yn 2017. Roeddem yn deall drwy siarad gyda'n tenantiaid a threulio amser gyda nhw y gall camau cyntaf cadw cartref, talu rhent a theimlo eich bod yn cael eich cefnogi yn yr ardal a'r gymuned fod yn anodd.


Caiff y rhaglen ei rhedeg gan ein tîm Ymgysylltu Cymunedol ac mae'n cefnogi tenantiaethau newydd yn eu 12 mis cyntaf ac yn gweithio gyda thenantiaid i'w helpu i reoli eu bywydau yn well. Gall hyn olygu:
  • Trefnu biliau cyfleustod a thaliadau effeithlon o ran cost

  • Sgiliau gwneud cyllideb a rheoli arian

  • Cymorth i reoli eu cartrefi a'u bywydau

  • Atgyfeiriadau i asiantaethau partner yn cynnig cyfleoedd datblygu personol

  • Cyngor ac awgrymiadau ar arbed arian

  • Ynghyd ag unrhyw faterion cysylltiedig â thenantiaeth


Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r timau Gwasanaethau Tai a Chyngor Incwm i ddynodi'r ymyriad cynnar sydd ei angen i sicrhau fod unrhyw denantiaeth newydd yn llwyddiannus a bod ein tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn, gyda phopeth yn ei le i'w galluogi i ffynnu a rhedeg cartref hapus ac iach. Ynghyd ag ymweliadau cartref a chynnig cefnogaeth dros y ffôn, mae'r swyddog Get Set hefyd yn helpu tenantiaid i ganfod cyfleoedd gwirfoddoli sy'n help enfawr pan ddaw i gymryd rhan lawn yn hyderus yn y gymuned a'n helpu i adeiladu cymdogaethau cynaliadwy a chydlynol.


Caiff llwyddiant Get Set ei adlewyrchu yn y rhifau. Ers dechrau'r rhaglen ym mis Mai 2017 rydym wedi cefnogi 260 o denantiaid a gostwng terfyniadau tenantiaethau gan 77%."


Mae cefnogi tenantiaid yn ganolog i waith cymdeithasau tai ac mae'n rhan o ymrwymiad i adeiladu cartrefi fforddiadwy a hefyd greu sylfeini cymuned gref. Mae mwy o wybodaeth am weledigaeth y sector ar gael yma.