Jump to content

13 Awst 2019

Ymladd blinder dysgu

Ymladd blinder dysgu
Wrth i sefydliadau barhau i dyfu a newid, gall fod yn anodd cadw diddordeb staff mewn dysgu. Yn ein Cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu ym mis Medi, bydd Robin Hoyle o Learnworks yn llywio cynrychiolwyr ar sut i ymladd blinder dysgu. Dyma gipolwg sydyn ar yr hyn sydd i ddod:


“Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio mewn cynlluniau hyfforddiant ieuenctid, gan ddefnyddio fy ngradd mewn seicoleg ac actio i weithio wedyn ar draws y cyfryngau digidol ac arloesedd dysgu.


Rwy'n aml wedi gweld pobl yn dechrau cael llond bol ar ymdopi â llwyth gwaith cynyddol drwm, a disgwyl hefyd iddynt wneud llawer o ddysgu. Rwy'n canolbwyntio ar ddynodi sut y gall sefydliadau ffitio dysgu i mewn ac ennyn diddordeb eu staff yn ystod cyfnodau prysur.


Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig cael eglurder a bod yn dryloyw gyda'n staff ar sut y bydd hyfforddiant yn cefnogi pobl i fod y gorau y gallant fod yn ogystal â helpu'r sefydliad. Mae angen i ni wneud ein glir ein bod eisiau buddsoddi yn ein staff, ac mae hynny i gyd yn rhan o ddiwylliant y sefydliad a sut y gweithredwn o ddydd i ddydd.


Drwy roi ein staff yng nghanol ein rhaglenni dysgu, gallwn fynd beth o'r ffordd i ymladd y gwrthwynebiad hwnnw i ddysgu a datblygu.


Nid yw'r cyfan am ddiwylliant serch hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod yr hyfforddiant a gynigir yn ddiddorol ac yn gwneud i bobl feddwl, ac i wirioneddol wneud cyfleoedd dysgu yn un o fanteision gweithio yn ein sefydliadau.


Dros y blynyddoedd, gweithiais gyda chwmnïau mawr yn y sector preifat ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at weld sut y gallai cymdeithasau tai fynd o gwmpas pethau'n wahanol i'r sector preifat, a hefyd i rannu rhai o'r gwersi a ddysgais ar hyd y ffordd."


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu & Datblygu cyn 15 Awst ac arbed £30 ar eich tocyn.