Ymgyrch cynghrair yn rhoi'r sylw i ysglyfaethau cymunedol
Caiff ymgyrch i dynnu sylw at ysglyfaethau ariannol sy'n llechu mewn cymunedau ledled Cymru ac sy'n targedu pobl fregus ei lansio yn y Senedd heddiw.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ac Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn cydweithio ar gyfer yr ymgyrch 'Peidiwch â chael eich brathu' i atal problem benthycwyr arian anghyfreithlon.
Mae miloedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn yn troi at fenthycwyr arian anghyfreithlon. Mae diwygiadau diweddar mewn budd-daliadau, yn cynnwys y 'Dreth Ystafelloedd Gwely' a'r dirywiad economaidd wedi gwaethygu'r broblem. Mae ffigurau gan WIMLU yn awgrymu y bu cynnydd dramatig yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n troi at siarcod benthyca. Mae un achos y mae WIMLU yn ei ymchwilio yn cynnwys dros 400 o ddioddefwyr ar draws De Cymru gyfan.
Nod lansiad 'Peidiwch â chael eich brathu' heddiw yw tynnu sylw at y broblem gynyddol ac ehangu'r drafodaeth am ddatrysiadau i fenthycwyr arian llog uchel anghyfreithlon a chyfreithlon.
Caiff y lansiad, a gadeirir gan Victoria Winckler o felin drafod Sefydliad Bevan, ei chefnogi gan Archesgob Cymru, Barry Morgan; Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi; a Sian Williams, Toynbee Hall. Bydd y digwyddiad yn dangos hysbyseb deledu a ddarlledir ar ITV Cymru ac S4C ym mis Chwefror. Mae CHC hefyd yn defnyddio'r digwyddiad i geisio cefnogaeth gan wleidyddion, yr Eglwys, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â phroblem gynyddol benthyca anfoesegol ac anfoesol a gaiff hefyd ei alw yn usuriaeth.
Mae WIMLU yn cynghori rhai sydd wedi dioddef oherwydd siarcod benthyca ac yn ymchwilio ac erlyn rhai sy'n gyfrifol am y drosedd. Ers ei chreu yn 2008, mae'r uned wedi ymchwilio cyfanswm o 187 o siarcod benthyca honedig, yn ymwneud â mwy na £2.5 miliwn o bunnau mewn benthyciadau. Mae wedi gweithredu yn y llys yn erbyn 35 o bobl gydag 11 yn derbyn dedfrydau carchar.
Dywedodd Stephen Grey, rheolydd WIMLU: "Mae llawer o siarcod benthyca wedi gweithredu'n hollol ddigywilydd a defnyddio ofn i gynnal eu busnes. Dengys ein ffigurau fod 75 y cant o'r bobl sy'n defnyddio siarcod benthyca ar fudd-daliadau, a bod 65 y cant o'r dioddefwyr yn fenywod. Gwelwn hefyd fod gan 40 y cant o ddioddefwyr ryw fath o anabledd meddyliol neu gorfforol gyda chanran arswydus o 46 y cant yn ystyried y siarc benthyca yn gyfaill!"
Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda WIMLU i dynnu sylw at broblem siarcod benthyca a benthycwyr diegwyddor, gyda'r brif nod o ffurfio 'cynghrair yn erbyn usuriaeth' gyda llywodraeth, yr Eglwys, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill.
Yn ôl Mr Bennett, mae'r ymgyrch 'Peidiwch â chael eich brathu' yn cynnig dull gweithredu cynhwysfawr a holistig i ymestyn allgauedd ariannol yng Nghymru drwy ddull gweithredu tair ochrog - cynyddu ymwybyddiaeth o ymgyrch 'Peidiwch â chael eich brathu'; cyngor drwy brosiect cyngor arian 'Mae Budd-daliadau yn Newid' a mynediad i gredyd fforddiadwy drwy sefydliadau megis Moneyline Cymru ac undebau credyd.
Ychwanegodd Mr Bennett: "Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig gydag anweithgaredd economaidd a dibyniaeth ar fudd-daliadau'n uwch yma nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Mae allgau ariannol yn broblem enfawr ac er ein bod yn gwneud ein pwt i fynd i'r afael ag usuriaeth, ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae pobl ddifreintiedig, yr anabl a'r rhai ar incwm isel yn ysglyfaeth i'r siarcod benthyca a benthycwyr llog uchel, sy'n llwytho dyledion arnynt nad oes ganddynt fodd i'w had-dalu. Caiff dioddefwyr eu gadael gyda chreithiau cynnydd mewn dyled, ofn a phryder.
"Nid oedd Wonga'n bodoli chwe blynedd yn ôl - mae bellach yn werth £600m ac yn cynllunio treblu ei fusnes ar gefn diwygio budd-daliadau a chyflwyno Credyd Cynhwysol. Felly mae mynediad i ddulliau amgen o gredyd fforddiadwy a dibynadwy yn hanfodol os ydym i fynd i'r afael â'r pla cynyddol hwn ar gymdeithas."
Datgelodd CHC hefyd fod bron chwarter y rhai a gynghorir gan dîm cyngor arian Mae Budd-daliadau yn Newid mewn gwaith, gan ddangos problem gynyddol tlodi mewn-gwaith, gyda llawer yn troi at fenthycwyr llog uchel i ddod â deupen llinyn ynghyd.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Mae llawer o bobl yn wynebu amser caled, yn arbennig ar ôl y Nadolig ac wrth i effaith lawn y newidiadau i fudd-daliadau frathu. Fodd bynnag, pa bynnag mor anodd y daw pethau, ein neges yw na ddylai neb byth hyd yn oed ystyried y temtasiwn o ddefnyddio siarcod benthyca."
Ychwanegodd: "Mae troi at y bobl hyn yn arwain at ofid, pryder ac yn y pen draw golli mwy o arian. Mae cyngor dilys a dibynadwy a benthyciadau fforddiadwy ar gael i'r rhai sy'n cael eu hunain gyda phroblemau arian. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ariannol i undebau credyd a gwasanaethau cyngor i helpu ein cymunedau."