Sefydliad Copr Tai Tarian yn hybu cyflogaeth a sgiliau
Ni fu ble’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae maniffesto Cartref yn rhoi sylw i rai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i adeiladu cymunedau iachach, mwy llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell, ynghyd ag ymrwymiad i gyrraedd targedau dim carbon. Rhan o’r ymrwymiad hwnnw yw creu mwy o swyddi a gwella sgiliau a hyfforddiant.
Cafodd Sefydliad Copr Tai Tarian ei greu yn 2016 fel ffordd i gefnogi pobl sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i gyflogaeth cynaliadwy. Darllenwch fwy:
“Mae cynllun Sefydliad Copr yn cynnig contractau 12 mis ar dâl i denantiaid, gan weithio yn yr awyr agored gyda’r rhaglen gwelliannau allanol, a hefyd yn rhoi cymorth ac arweiniad hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn i roi’r cyfle gorau i bobl i sicrhau cyflogaeth unwaith y daw’r contract i ben.
“Mae tenantiaid sy’n ymuno yn y cynllun yn treulio blwyddyn yn gweithio wrth ochr tîm Tai Tarian o grefftwyr profiadol i ennill gwybodaeth a phrofiad mewn nifer o feysydd.
“Yn y pedair blynedd ers dechrau’r cynllun cafodd 53 o bobl gyfleoedd i gymryd rhan, gyda
89% yn mynd ymlaen i gyflogaeth lawn-amser.
“Ymunodd chwech o bobl â’r cynllun y llynedd ac mae pob un ohonynt wedi canfod swyddi hirdymor ers hynny.”
Fel canlyniad i 12 mis llwyddiannus gyda Sefydliad Copr, mae Lewis yn awr yn gweithio i Dîm Cymdogaeth Tai Tarian. Wrth siarad am ei swydd newydd fel Cynorthwyydd Cymdogaeth, dywedodd Lewis:
“Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle newydd yma. Dysgais lawer drwy fod yn rhan o brosiect Sefydliad Copr. Rwyf wedi gweithio gyda chriw gwych o fechgyn a chael hyfforddiant a chefnogaeth ragorol gan fy ngoruchwylwyr a rheolwr. Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored ac yn gobeithio y gallaf ddefnyddio llawer o’r sgiliau a ddysgais gyda’r Sefydliad Copr yn fy swydd newydd.”
Ar ôl gorffen ei gyfnod gyda Sefydliad Copr, cafodd Ryan gynnig swydd gydag un o dimau arbenigol Tai Tarian ac mae’n hyfforddi ar hyn o bryd i ddod yn arddwr coed gyda chymwysterau llawn. Wrth siarad am ei brofiadau, dywedodd Ryan:
“Rwy’n falch i mi ymuno yn Sefydliad Copr a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n edrych am waith. Wyddoch chi byth, efallai y gallwch fel fi fynd ymlaen i gael swydd lawn-amser.
“Diolch i fy mhrofiadau gyda Sefydliad Copr, rwyf wedi dechrau hyfforddi i ddod yn arddwr coed. Mae gen i eisoes gymwysterau llif gadwyn a dringo ac yn gobeithio ennill mwy o gymwysterau fel y gallaf ehangu fy ngyrfa ymhellach.”
Darganfyddwch mwy am maniffesto Cartref yma.