Jump to content

29 Medi 2017

Ymgeisydd #3 rownd derfynol Gwobr Creu Creadigrwydd #3 - Space Saviours (Tai Cwm i Arfordir - V2C)




Mae cymdeithasau tai yn aml yn gofyn am farn tenantiaid a phreswylwyr ar adfywio gofodau agored. Pobl leol sy'n gweld yr effaith fwyaf os caiff gofod ei ddefnyddio'n wael neu os na wneir defnydd digonol ohono. Ond a yw preswylwyr yn gwybod am yr holl opsiynau sydd ar gael? A ydynt wedi cael gwybodaeth lawn ar effeithiau chwarae, bioamrywiaeth, goleuadau neu gynlluniau ffyrdd?


[video width="640" height="360" mp4="http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2017/09/Pat-Chown-video-V2C.mp4"][/video]


Sefydlwyd Space Saviours i drin y cwestiynau hyn. Gyda chyllid y Loteri yn y blynyddoedd cyntaf, cynhaliodd y tîm sesiynau gwybodaeth yn uniongyrchol ar gyfer preswylwyr ar fanteision creu ardaloedd tyfu bwyd, effeithiau amddifadedd chwarae ar iechyd meddwl a chorfforol, pwysigrwydd peillwyr a defnyddiau eraill posibl gofodau agored trefol. Fe wnaeth rhai o'r cyrff mwyaf adnabyddus yng Nghymru helpu i gyflwyno'r negeseuon hyn: Cadw Cymru'n Daclus, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol, Urbanists, Sustrans a Chwarae Cymru.


Gall cymdeithasau tai wneud hyn yn uniongyrchol, ond mae Space Saviours yn ei wneud yn well. Mae gan gymdeithasau tai lawer o rolau yn eu cymunedau - casglu rhent, atgyweiriadau, monitro cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol - ac mae'n iawn eu bod yn agored i adborth ar y materion hyn. Fodd bynnag, gall momentwm gael ei arafu drwy i gyfarfodydd ddod yn fforwm ar gyfer materion rheoli tai.


Cafodd Space Saviours ei greu a chaiff ei reoli gan bartneriaeth o gymdeithasau tai ond mae ganddo hunaniaeth annibynnol sy'n caniatáu cyflwyniad hyd braich. Mae hyn yn osgoi rôl ddeuol cymdeithasau tai fel datblygydd prosiectau adfywio gyda phreswylwyr lleol A darpar gyllidwyr. Mae'n galluogi'r preswylwyr i gynnig ac ystyried syniadau am y defnydd o ofod agored fel y mynnant ac ystyried cymdeithasau tai fel dim ond un o'r cyllidwyr posibl.


Caiff preswylwyr eu hannog i ffurfio grwpiau i fynd â'u syniadau ymlaen. Mewn rhai achosion, y canlyniad fu cyfarfod o grŵp codi sbwriel i lanhau coedwig leol neu gyllid grant i gychwyn perllan gymunedol neu ofod tyfu. Gall grwpiau sydd â syniadau manylach fynd trwodd i'r cam dylunio. Mae dylunwyr proffesiynol yn llunio'r syniadau i'r grŵp ymgynghori gyda'r gymuned a cheisio cyllid. Cafodd rhai grwpiau eu cefnogi gan eu cymdeithas tai leol i greu ardaloedd chwarae naturiol uchelgeisiol.


Mae cyfnod newydd Space Saviours, yn dilyn cyllid y Loteri, yn wasanaeth a gaiff ei rannu. Ymunodd V2C gyda United Welsh, Tai Calon a Tai Sir Fynwy i barhau'r rhaglen. Credwn, yn nhirlun heriol newydd tai a chyllid, bod gwasanaethau a gaiff eu rhannu yn ddatrysiad creadigol i well darpariaeth. Mae adnoddau cyfun yn rhoi mwy o sylw i brosiectau adfywio cymunedol a, gyda phroffil cynyddol Space Saviours, mae asiantaethau eraill yn cysylltu â nhw am brosiectau llawr gwlad, yn arbennig yn yr ardaloedd targed lle mae gwasanaethau tai.


Roedd perfformiad blynyddoedd cyntaf Space Saviours yn llawer uwch na'r targedau ar gyfer y nifer o breswylwyr a gymerodd ran a faint o grwpiau a ffurfiwyd. Mae canlyniadau 'heb eu cynllunio' yn rhagorol - digwyddiadau a drefnwyd, pobl i gyflogaeth a chyllid allanol a gyrchwyd.


Mae Space Savious eisoes wedi ennill ar gyfer y dros 700 a gymerodd ran. Gallai'r wobr hon gydnabod ymagwedd wreiddiol y prosiect at wir ymgysylltu â phreswylwyr a hunanddigonolrwydd. Mae'n cydnabod grym gweithio partneriaeth drwy wasanaeth a gaiff ei rannu, a chymryd cam yn ôl i roi rhyddid i denantiaid a phreswylwyr i sefydlu eu blaenoriaethau eu hunain.


Canfyddwch os gwnaethom ennill y wobr Creu Creadigrwydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC yr wythnos nesaf! https://chcymru.org.uk/en/events/view/2017-one-big-housing-conference