Ymgeisydd #1 rownd derfynol Gwobr Creu Creadigrwydd - Rooms4U (Cymdeithas Tai Newydd)
Daeth diwygio llesiant â llawer o heriau i'r sector tai, gyda chyfyngu budd-dal tai i rai dan 35 i'r Gyfradd Rhannu Ystafell o Ebrill 2019 yn un ohonynt.
Lansiwyd Rooms4U, is-gwmni Homes4U ym Mro Morgannwg, ym mis Rhagfyr 2016 i gynorthwyo'r 520 o bobl sengl dan 35 oed sydd ar y rhestr aros, yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid gan y rhaglen Crisis Help to Rent. Nod Rooms4U yw ymchwilio a datblygu tai rhannu ar gyfer Bro Morgannwg fel y gellir rhoi cynnig ar opsiynau tai rhannu yn barod ar gyfer gweithredu gostyngiad Cyfradd Rhannu Ystafell LHA yn Ebrill 2019.
Mae ymgeiswyr yn dilyn proses drylwyr i baru ac asesu anghenion, a chynhelir asesiad risg llawn i sicrhau y gwneir y cyfatebion mwyaf addas pan ddaw anheddau neu ystafelloedd ar gael.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fynychu gweithdy rhyngweithiol cyn-denantiaeth pwrpasol ar rannu llety sy'n annog y sawl sy'n cymryd rhan gan ddysgu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i drin tenantiaeth a deall sut beth y gall bywyd mewn tai rhannu fod. Cafodd y gweithdy ei gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion pobl ifanc dan 35 oed yn cynnwys pynciau megis diwygio llesiant, cyflogaeth a hyfforddiant ac opsiynau tai. Yn ychwanegol, mae'r gweithdy yn rhoi sylw i hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid, cyfrifoldebau ariannol ac yn anelu i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion cefnogaeth. Caiff pob sesiwn ei theilwra i unigolion neu grwpiau, a threfnir sesiynau un i un lle bo angen.
Dywedodd Chloe Ambridge, tenant Rhannu Llety Tai Newydd: 'Mae Rooms4U wedi helpu llawer arnaf. Maent wedi fy nghefnogi'r holl ffordd. Rwy'n awr yn allu cynnal tenantiaeth oherwydd yr help a gefais. Rwyf wrthi'n edrych am waith nad oeddwn hyd yn oed wedi croesi fy meddwl, ond rwy'n gallu gwneud hynny nawr oherwydd y cyfle a gefais'.
Mae'r prosiect hefyd yn cysylltu ymgeiswyr a thenantiaid gyda chynlluniau cynhwysiant ariannol a digidol i ostwng effaith Credyd Cynhwysol a chynorthwyo gydag unrhyw broblemau neu fylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth. Lle mae ymgeiswyr neu denantiaid yn teimlo'n barod ar gyfer cyflogaeth neu hyfforddiant, cânt eu cefnogi gan y Swyddog Cyflogadwyedd sy'n cynorthwyo gydag ysgrifennu CV, ceisiadau, chwilio am swydd a sicrhau cyfleoedd hyfforddiant.
Mae'r prosiect yn anelu i ddynodi'r model neu fodelau gorau felly, pan ddaw 2019, y gall y partneriaid yn y prosiect ddarparu gwasanaethau gydag adnoddau digonol a llety ansawdd da sy'n diwallu anghenion ymgeiswyr a thenantiaid.
Mae'r prosiect wedi cysylltu gyda darparwyr cefnogaeth, grwpiau cymunedol, gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant a landlordiaid preifat i hyrwyddo'r newidiadau i LHA i rai dan 35 oed a thrwy hyn cawsant fwy na 50 atgyfeiriad.
Mae'r Bartneriaeth wedi datblygu 6 adeilad ar gyfer defnydd Rhannu Llety, gan alluogi 13 o bobl dan 35 oed i beidio bod yn ddigartref ac mewn tenantiaethau diogel, cynaliadwy.
Rooms4U yw'r prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n arwain y ffordd wrth ddatblygu opsiynau rhannu tai ar gyfer ymgeiswyr. Mae'r prosiect yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â diwygio llesiant gan ddefnyddio syniad arloesol sy'n ddiddorol ac yn ysbrydoli sefydliadau eraill.
Canfyddwch os gwnaethom ennill y wobr Creu Creadigrwydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC yr wythnos nesaf! https://chcymru.org.uk/en/events/view/2017-one-big-housing-conference