Jump to content

15 Mehefin 2016

Ymchwil Model Tai Hyfyw CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Hoffai Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rannu ein hadroddiad ymchwil diweddaraf; 'Astudiaeth dichonolrwydd ar y rhagolygon o ddatblygu model tai hyfyw ar gyfer rhai â hawl i'r gyfradd tai a rennir yn unig', a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Tai a Chynllunio Caergrawnt.

Cafodd yr adroddiad ymchwil ei gomisiynu yn dilyn y cyhoeddiad am newidiadau i Fudd-dal Tai, fydd yn effeithio ar bobl ifanc sengl dan 35 oed y caiff eu budd-dal tai ei gapio ar y lefel y bernir sydd ei angen i rentu ystafell mewn tŷ a rennir. Mae'r newidiadau eraill yn cynnwys dileu hawl awtomatig i Fudd-dal Tai i rai pobl ifanc 18-21 oed.

Yn y dyfodol, bydd cyfyngiad ar swm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o'r grŵp hwn ei hawlio, gyda diffygion cyfartalog o tua £21 yr wythnos rhwng eu hawl i fudd-dal tai a'u rhent. Mae pobl ifanc yn annhebyg iawn i fedru llenwi'r diffyg hwn o'u hincwm budd-daliadau neu enillion ac mae'n annhebyg y bydd Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn ddigon i helpu'r rhan fwyaf.

Fe wnaethom gomisiynu'r adroddiad ar y cyd i weld beth all Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru ei wneud i gynyddu darpariaeth llety fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc sengl dan 35 oed yn y sector tai cymdeithasol, sy'n economaidd hyfyw. Defnyddiodd yr ymchwil arolwg o bobl ifanc yng Nghymru, grwpiau ffocws, cyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys landlordiaid, a dadansoddiad o ddata ar batrymau byw cyfredol.

Mae 'r adroddiad ymchwil yn cynnig yr argymhellion allweddol dilynol:

  • Cynyddu addysg a hyrwyddo tai a rennir fel yr opsiwn mwyaf hyfyw yn economaidd ar gyfer pobl ifanc sengl ar incwm isel neu fudd-daliadau
  • Dileu rhwystrau i dai a rennir ar lefel y Deyrnas Unedig, lefel Cymru a'r lefel lleol
  • Cyllid ar gyfer datblygu a rheolaeth barhaus tai ar gyfer pobl ifanc sengl
  • Hyrwyddo arfer da wrth ddatblygu a rheoli tai a rennir

Caiff yr ymchwil a'r argymhellion eu trafod yn fanwl mewn digwyddiad i lansio'r adroddiad ddydd Gwener 17 Mehefin. Bydd CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad i ystyried canfyddiadau'r ymchwil a datblygu'r argymhellion a byddwn yn eich hysbysu sut mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Darllenwch yr adroddiad fan hyn.