Jump to content

08 Rhagfyr 2015

Ymateb CHC i Ddrafft Gyllideb Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Drafft Gyllideb ar gyfer 2016/17

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC): "Mae hon yn gyllideb dda ar gyfer tai fforddiadwy. Mae CHC wedi cyflwyno'r achos i Lywodraeth Cymru gan danlinellu pwysigrwydd buddsoddi yn y sector cymdeithasau tai. Croesawn y cynnydd o £5m i'r Grant Tai Cymdeithasol o gymharu â chyllideb y llynedd, sy'n gyfanswm o £68.8m.

Mae mwy o angen cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru nag erioed. Mae buddsoddiad mewn tai yn helpu i ysgogi'r economi a darparu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i bobl leol, yn ogystal â chyllido cartrefi fforddiadwy newydd.

Er ein bod yn croesawu'r cynnydd mewn Grant Tai Cymdeithasol, mae'n hanfodol tanlinellu pwysigrwydd ffrwd incwm rhent cadarn. Rydym angen i Lywodraeth Cymru yn awr gadarnhau'r setliad rhent yng Nghymru a gytunwyd yn flaenorol.

Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud rhai penderfyniadau ariannol anodd, ac rydym yn falch iawn y caiff y rhaglen Cefnogi Pobl ei chydnabod fel blaenoriaeth allweddol a'i gwarchod yng nghyllideb y flwyddyn nesaf gyda dyraniad o £124.4m.

Gallai unrhyw doriadau pellach i Cefnogi Pobl gael canlyniadau trychinebus i bobl agored i niwed ledled Cymru a dyna pam yr ydym yn rhoi cymaint o groeso i gyhoeddiad heddiw.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cymorth Cymru i dynnu sylw at fanteision y rhaglen Cefnogi Pobl ac i alw am ei gwarchod. Rydym yn hynod falch y cafodd yr ymgyrch ei chlywed ac y bydd o anfantais i'r rhai yn yr angen mwyaf."

Caiff papur gwybodaeth llawn i aelodau gyda manylion pellach ei gylchredeg cyn diwedd yr wythnos.

Gallwch ddarllen dogfen lawn y gyllideb yma.