Ydych chi'n postio cynnwys sy'n bwysig eich cynulleidfa?
Os yw Twitter wedi dysgu un peth i ni, hynny yw cadw ein cyfathrebu'n gryno. Mae hynny'n awgrym defnyddiol, o ystyried fod cwmpas sylw pobl yn fyrrach nag erioed.
Mae hysbysiadau ffonau clyfar a chyflenwad newyddion gorlawn yn ein llusgo i dyllau cwningen na fyddwn efallai byth yn canfod ein ffordd allan ohonynt.
Yng ngofodau cystadleuol heddiw, mae'n rhaid i chi greu cynnwys fydd nid yn unig yn denu ei sylw ond hefyd yn berthnasol i'r defnyddiwr. (Nodwch y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n berthnasol i'r defnyddiwr a'r hyn mae'ch sefydliad eisiau i'ch defnyddwyr ei weld). Os na, caiff eich neges ei cholli yn y sŵn a'r anrhefn sydd yng nghyflenwad cyfryngau cymdeithasol pobl.
Cyn meddwl pa gynnwys i'w bostio, arhoswch i ystyried: pam y byddai defnyddiwr yn clicio ar rywbeth yr ydych chi fel brand wedi'i bostio yn hytrach na rhywbeth mae un o'u ffrindiau wedi'i bostio? Pa werth ychwanegol ydych chi'n ei roi i'r defnyddiwr sy'n treulio amser yn edrych ar eich cynnwys? Ac unwaith y maent wedi gwneud yr ymdrech i gysylltu gyda'ch brand, pa brofiad ydych chi'n ei gyflwyno?
Man cychwyn defnyddiol yw peidio tybio fod gan y defnyddiwr sy'n edrych ar eich cynnwys y moethusrwydd o gael sgrin fawr. Mae'n helpu i ddychmygu eich dilynwyr fel cymudwyr, efallai ar y trên adref ar ôl diwrnod yn y gwaith. Efallai'n sefyll ar eu traed, yn sgrolio drwy eu cyflenwad newyddion cymdeithasol ar eu ffôn.
A yw'r cymudwr yn mynd i glicio dolen i gael mynediad i'r adroddiad blynyddol yr ydych wedi'i bostio, lawrlwytho'r PDF swmpus a defnyddio chwyddwydr i edrych ar y ffigurau bach? Ni fydd y cefnogwr mwyaf ymroddedig yn gwneud hynny. Mae'n debyg na fyddai eich bwrdd cyfarwyddwyr yn trafferthu gwneud hynny chwaith.
Yn hytrach, dewiswch pa ffigurau yr ydych eisiau rhoi sylw iddynt a chreu cynnwys o'u hamgylch. Mae meddyliau pobl yn crwydro. Maent eisiau pytiau o wybodaeth y gallant ei chrynhoi'n gyflym a'i rhannu'n hawdd.
Wrth feddwl pa gynnwys i'w bostio, ystyriwch berfformiad postiau blaenorol. Beth wnaeth eich cynulleidfa gysylltu ag ef a beth wnaethon nhw sgrolio heibio? Gwnewch fwy o'r cyntaf, a gostwng cymaint ar yr olaf ag a fedrwch.
Wrth edrych ar ddadansoddeg Macmillan, gwyddom fod ein cynulleidfa'n canfod gwybodaeth ar fisoedd/wythnosau/dyddiau ymwybyddiaeth yn ddefnyddiol iawn? Maent yn cael eu rhannu'n eang, mae pobl yn rhoi sylwadau ac yn gofyn cwestiynau, a bob mis ein postiau ymwybyddiaeth yw'r rhai sy'n perfformio orau bob amser.
Gwyddom beth mae ein cynulleidfa ei eisiau, a gwnawn yn siŵr fod gennym y cynnwys sy'n gwasanaethu eu diddordeb.
Yn sicr, nid yw ymaflyd gyda metrigau wrth ddant pawb, ac nid yw Excel yn gyfaill gorau pawb. Ond os anwybyddwch berfformiad gwaith y gorffennol, rydych mewn perygl o ailadrodd yr un camgymeriad a byth ddeall beth mae'ch cynulleidfa ei eisiau.
Bernard Muscat
Uwch Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol, Macmillan Cancer Support
Peidiwch â cholli sesiwn Bernard yn ein Cynhadledd Cyfathrebu ar 25 Ionawr 2018! Archebwch eich lle yma: https://chcymru.org.uk/en/events/view/2018-communications-conference