Jump to content

21 Tachwedd 2019

Y sector tai ddoe a heddiw

Y sector tai ddoe a heddiw
Dechreuodd Angela weithio yn y maes tai yn 1981 a dros y 38 mlynedd diwethaf gwelodd gymdeithasau tai yn addasu i ddiwallu anghenion tenantiaid.


Mae'n rhannu ei stori:


“Dechreuais weithio yn y maes tai yn 1981 fel clerc atgyweirio gyda Chyngor Cwm Cynon. Bu gennyf nifer o swyddi gwahanol dros y blynyddoedd ac yn bwysicaf oll roeddwn yma pan sefydlwyd Trivallis yn 2007.


"Ar ôl blynyddoedd lawer o weithio ar y rheng flaen, yn gofalu am gynnal a chadw, cymdogaethau a thenantiaid, es yn ôl i brifysgol i ddysgu mwy am dai â chymorth a deall y ffordd mae pobl yn ymddwyn, gan arwain at fy swydd bresennol fel Dirprwy Gyfarwyddydd Cymdogaethau.


"Mae'n fraint anhygoel i weithio yn y maes tai. Mae gan ein tenantiaid yn aml fywydau anodd ac mae'n werth chweil medru adeiladu eu hymddiriedaeth a chlywed eu straeon. Rwy'n gweithio'n agos gyda nhw i wneud yn siŵr fod y gwasanaethau a ddarparwn yn gweithio iddynt.


"Pan ddechreuais weithio yn y sector yn yr 80au, roeddem yn gwneud yr hyn a gredem oedd orau. A symud ymlaen yn gyflym dros 30 mlynedd, rydym yn gweithio'n agos gyda'n tenantiaid i wneud yn siŵr y caiff ein gwasanaethau eu llunio gan eu hanghenion.


"Gall y sector tai fod yn waith caled, ond mae'n un o'r swyddi gorau y gallwch eu cael. Mae Trivallis yn gweithio mewn ardaloedd sydd wedi dioddef tlodi gwirioneddol ac sydd, mewn llawer o achosion, yn dal i wneud hynny. Mae medru gweithio ar faterion ymarferol dydd i ddydd gyda thenantiaid, yn ogystal â chynnig hyfforddiant a chefnogaeth i helpu pobl yn ôl i gyflogaeth yn gyfle gwerthfawr iawn.


"Rwy'n dod o Gwm Cynon ac yn dal i fyw yma, felly mae'n wych gweithio mewn sector sy'n rhoi'n ôl i gymunedau lleol mewn ffordd real iawn. Mae gen i gyfle i ddylanwadu ar lefel uwch hefyd, medru gwneud gwahaniaeth go iawn a chyfrannu mewn unrhyw ffordd.


"Mae dwy o'n tenantiaid yn wirioneddol wedi sefyll mas i mi ac yn dangos pa mor werth chweil yw'r sector yma i weithio ynddo. Symudodd Joan i lety gwarchod gyda ni pan aeth ei gŵr i gartref gofal. Rhoddodd gyflwyniad mewn cynhadledd tai, gan ddod â dagrau i lygaid y cynrychiolwyr wrth iddi siarad am y gwahaniaeth a wnaeth llety gwarchod iddi ar amser pan oedd yn teimlo'n unig iawn.


"Ymunodd tenant arall, cyn brifathrawes, â'n bwrdd fel Cadeirydd, gan ddylanwadu ar benderfyniadau fel y gallai'r gwasanaethau a ddarparwyd wneud gwahaniaeth go iawn i denantiaid.


"Rwy'n edrych ymlaen at weld ble aiff y 30 mlynedd nesaf â ni a sut y gallwn barhau i weithio wrth ochr ein tenantiaid i wneud gwahaniaeth."


Mae gan gymdeithasau tai weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Edrychwch ar ein gweledigaeth yma.



Mae llawer wedi digwydd ers i Angela ddechrau ei gyrfa. Gweler ein llinell amser o'r 30 mlynedd diwethaf yma:





Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).