Jump to content

12 Hydref 2015

Y gaeaf yw'r lladdwr mwyaf i gymdeithas heneiddiol Cymru, meddai Care & Repair Cymru

Helpwch ni i atal pobl hŷn agored i niwed rhag marw'r gaeaf hwn oherwydd na allant fforddio twymo eu cartrefi a bwyta yw neges Care & Repair Cymru, hyrwyddwyr pobl hŷn.

Yr wythnos hon (12 Hydref) mae Care & Repair Cymru yn rhoi'r sylw i sgandal marwolaethau ychwanegol y gaeaf wrth lansio eu hymgyrch Ymladd Tlodi Tanwydd.

Nod yr ymgyrch Cymru-gyfan yw amlygu problem enfawr tlodi tanwydd ac arbed bywyd miloedd o bobl hŷn yng Nghymru, a allai fel arall farw yn ystod y gaeaf oherwydd y tywydd oer.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: "Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o'r sgandal gyfoes yma - nid oes unrhyw amheuaeth fod tywydd oer yn lladd pobl hŷn. Ni ddylai pobl hŷn orfod dewis rhwng bwyta neu dwymo eu cartrefi yn ystod y gaeaf. Mae mwy na hanner aelwydydd pensiynwyr sengl a 27% o bensiynwyr priod yng Nghymru mewn tlodi tanwydd ac ni allant fforddio hyd yn oed i dalu eu biliau tanwydd1.”

Amcangyfrifir fod 140,000 aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd2, ac adroddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru y bu 1,100 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yn 2012/13 gyda 70% ohonynt yn 75 oed neu drosodd.

Wrth dynnu sylw at y peryglon sy'n wynebu pobl hŷn yn y gaeaf, dywedodd Chris: "Wrth i ni heneiddio, rydym yn dod yn fwy llesg ac agored i salwch yr ysgyfaint a'r cylchrediad ac yn llai sad ar ein traed oherwydd effaith yr oerfel ar gymalau ac esgyrn. Mae hyn yn aml yn arwain at godymau trychinebus, anafiadau a chylch o syrthio dro ar ôl tro. Mae hyn yn golygu fod gan bobl hŷn yn aml fwy o angen gwres sy'n gweithio'n iawn a chadw'n iach a diogel. Ac mae biliau tanwydd uchel yn aml yn golygu bod gan ddeiliaid tai lai o arian ar gael ar gyfer bwyd."

Dywedodd Care & Repair Cymru hefyd y gall bod heb gyfrifon banc, neu fod wedi eu hallgau'n ddigidol o'r rhyngrwyd, atal llawer o aelwydydd pensiynwyr rhag cael mynediad i well prisiau a thariffau ynni, ac mae aelwydydd mewn ôl-ddyled yn aml â mesuryddion blaendalu drytach, gan felly waethygu'r broblem.

Yn ystod yr ymgyrch Ymladd Tlodi Tanwydd, bydd yr elusen gofrestredig yn cynnal cynlluniau codi arian i hyrwyddo hawliau pobl hŷn i gadw'n annibynnol, cynnes ac iach y gaeaf hwn drwy gynnig help ymarferol yn y fan a'r lle yng nghartrefi pobl hŷn mewn angen.

Mae ymgyrch Ymladd Tlodi Tanwydd yn dechrau gyda chais am gyfraniadau fydd yn rhoi help uniongyrchol i bobl hŷn gydag atgyweirio boeleri, insiwleiddio cartrefi a help ymarferol arall i wneud eu cartrefi'n gynhesach a mwy diogel. Mae rhai adroddiadau'n awgrymu mai dim ond 26% o'r rhai sy'n derbyn taliad Lwfans Tanwydd Gaeaf sydd mewn tlodi tanwydd3, a byddai'n well gan lawer o bobl ei weld yn mynd i'r rhai sydd yn yr angen mwyaf yn hytrach na'i dderbyn eu hunain. Felly mae'r elusen yn apelio at y rhai sy'n derbyn Lwfans Tanwydd Gaeaf, na theimlant ei fod ei angen, i gyfrannu'n uniongyrchol i'w cronfa fel y gallant ailddosbarthu’r arian i helpu'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd.

Yn ychwanegol mae Care & Repair Cymru yn cynnal digwyddiadau 'Gweu Gyda'n Gilydd' gan wahodd pawb i weu sgarff, gyda'r arian nawdd yn ogystal â'r sgarffiau eu hunain yn mynd i helpu pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi oer.

Mae Care & Repair Cymru hefyd yn cynnal yr ymgyrch #scarfie (hunlun sgarff) i godi ymwybyddiaeth o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf. Gofynnwn i bobl ein cefnogi a chyfrannu at yr achos drwy bostio #scarfie ar y cyfryngau cymdeithasol ac annog eraill i wneud yr un fath.

Wrth apelio at bobl i gymryd rhan yn ymgyrch Ymladd Trechu Tlodi, dywedodd Chris: "Rydym eisiau gweithredu nawr i helpu'r rhai sydd mewn angen. Gyda'n gilydd, gall ein hymdrechion olygu fod mwy o bobl hŷn yng Nghymru'n cadw'n fyw, cynnes a iach y gaeaf yma."

Os ydych yn berson hŷn sy'n credu y gallai help a chyngor a Care & Repair Cymru ac ymgyrch Ymladd Tlodi Tanwydd fod o fudd iddynt, ffoniwch 029 2067 4830 os gwelwch yn dda.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at ymgyrch Ymladd Tlodi Tanwydd fynd i http://www.careandrepair.org.uk/support-us-to-do-more ac i gael mwy o wybodaeth am Gweu gyda'n Gilydd a'n hymgyrch #Scarfie, dilynwch y dolenni yma:

http://www.cymru.careandrepair.org.uk/lets-all-knit-together/?force=2&text_size=2

http://www.cymru.careandrepair.org.uk/scarfie-campaign/?force=2&text_size=2