Y Deyrnas Unedig yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd
Yn dilyn Refferendwm ddoe ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, pleidleisiodd y DU i adael yr UE.
Pleidleisiodd 51.9% i adael gyda 48.1% yn pleidleisio i aros, gyda 71.8% o'r etholwyr yn bwrw eu pleidlais. Yng Nghymru, roedd y bleidlais derfynol yn 52.5% (gadael) i 47.5% (aros) gyda 17 o'r 22 awdurdod lleol yn pleidleisio i adael. Pleidleisiodd Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Gwynedd a Cheredigion i aros.
Amlinellodd Cartrefi Cymunedol Cymru oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cymdeithasau tai Cymru yn ei bapur gwybodaeth manwl diweddar ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Cyhoeddodd David Cameron y bore yma y bydd yn ymddiswyddo ym mis Hydref cyn cynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd angen i'r Prif Weinidog newydd wedyn benderfynu pryd i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon a fyddai'n rhoi dwy flynedd i'r Deyrnas Unedig negodi gadael a dod i gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda gwleidyddion a gweision sifil i ddeall yr effaith lawn ar gyfer y sector a byddwn yn eich diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau newydd.