Y Ceidwadwyr yn sicrhau mwyafrif yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig
Awgrymodd polau cyn yr etholiad, oherwydd y posibilrwydd cryf o senedd grog, y byddai'r pleidiau gwleidyddol unwaith eto yn dechrau trafodaethau am lywodraeth glymbleidiol. Fodd bynnag, er y darogan, mae'r Ceidwadwyr wedi sicrhau mwyafrif a bydd David Cameron yn dychwelyd i 10 Stryd Downing fel Prif Weinidog yn nes ymlaen heddiw.
Cafodd y Ceidwadwyr eu canlyniadau gorau yng Nghymru ers 1983 gyda 11 sedd (wedi ennill tair sedd ers 2010). Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddwy sedd ac mae ganddynt un sedd ar ôl yng Nghymru, a chadwodd Plaid Cymru eu tair sedd. Enillodd Llafur 25 sedd yng Nghymru (colli un sedd). Bu cynnydd o 10.7% yng nghyfran UKIP o'r bleidlais yng Nghymru, gan ddod yn drydydd o ran cyfanswm nifer y pleidleisiau.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Grŵp: "Gwyddom eisoes fod Cymru yn dioddef yn waeth o effeithiau diwygio lles, yn cynnwys y 'dreth ystafelloedd gwely'. Mae maniffesto'r Blaid Geidwadol yn cynnwys cynigion i wneud toriadau pellach i'r gyllideb nawdd cymdeithasol a budd-dal tai a gaiff effaith negyddol ar lawer o unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Dyna pam ei bod yn hollbwysig, mewn unrhyw setliad datganoli newydd, bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau cydraddoldeb gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon fel bod ganddynt y gallu, os dewisant ei weithredu, i liniaru rhai o'r effeithiau gwaethaf ar gyfer aelodau mwyaf bregus ein cymunedau. Bydd y materion hyn, ynghyd â'r ffordd y diwallwn anghenion tai Cymru, ar ganol y llwyfan wrth i ni baratoi ar gyfer yr Etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016."
Byddwn yn cyhoeddi papur gwybodaeth manwl yr wythnos nesaf ar yr hyn y bydd canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn ei olygu i Gymru a'n haelodau.
Mae rhestr lawn o ganlyniadau Cymru ar gael yma: http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/full-welsh-results-general-election-9212002