Jump to content

09 Mehefin 2022

Wythnos Gofalwyr 2022: Y gofal a roddir gan ein haelodau

Wythnos Gofalwyr 2022: Y gofal a roddir gan ein haelodau

Wyddech chi fod rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gofal arbenigol ar gyfer pobl hŷn a phobl gydag anableddau? I nodi Wythnos Gofalwyr (6-12 Mehefin), rydym yn rhoi sylw i sut mae ein haelodau yn gweithio i ddarparu llety a chymorth addas ar gyfer pobl er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol.

Mae bod yn ddarparydd gofal cymdeithasol nid-er-elw yn rhan bwysig o genhadaeth rhai cymdeithasau tai ac yn ffordd i gyfrannu at eu cymunedau lleol. Er mai dim ond ychydig o’n haelodau - Linc Cymru, Pobl, ClwydAlyn, Hafod a Caredig – sy’n darparu gwasanaethau gofal penodol ar hyn o bryd, mae gan bob cymdeithas tai rôl allweddol wrth gefnogi iechyd a lles preswylwyr.

Fel pob darparydd gofal arall, caiff cymdeithasau tai sy’n darparu’r gwasanaethau hyn eu rheoleiddio a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys cartrefi gofal a chartrefi nyrsio, yn ogystal â gofal a ddarperir mewn amgylchedd cartref tebyg i ofal yn y cartref a byw â chymorth.

Bu newid sylweddol yn rôl CHC wrth ddylanwadu ar bolisi gofal cymdeithasol drwy bandemig Covid-19, wrth i angen cymdeithasau tai am gymorth o amgylch materion allweddol tebyg i gyllid argyfwng, PPE a phrofion ddod yn neilltuol o ddwys. Rydym yn parhau i gyfrannu at sgyrsiau ar heriau tebyg i bwysau gweithlu a chyfleoedd fel y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Rydym yn rhoi cefnogaeth ac yn eiriol dros aelodau sy’n darparu gofal cymdeithasol yn y ffyrdd dilynol:

  • Hwyluso rhwydwaith gofal a chymorth, gan roi gofod i aelodau drafod a rhannu syniadau yn ogystal â mynediad uniongyrchol i swyddogion allweddol Llywodraeth Cymru
  • Bod yn rhan o’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol, cynghrair o gyrff cynrychioli darparwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys Cymorth Cymru a Fforwm Gofal Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth a chynyddu ein galwadau a negeseuon allweddol i wneuthurwyr penderfyniadau.
  • Cyfarfod yn rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod materion gofal cymdeithasol penodol, fel CHC a hefyd fel aelod o’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol.
  • Gweithio yn agos gyda phartneriaid i sicrhau y caiff y lefel staffio genedlaethol, cyfraddau ffioedd a chynnal heriau cost eu trin gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys dan ei chynlluniau i gyflwyno ‘Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol’.

I drafod gwasanaethau gofal a chymorth cymdeithasau tai neu waith CHC yn y maes, cysylltwch os gwelwch yn dda â Sarah Scotcher.