Jump to content

07 Tachwedd 2013

Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Credyd Cynhwysol

Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Credyd Cynhwysol, dywedodd Amanda Oliver, Pennaeth Polisi CHC:
“Mae hwn yn adroddiad damniol ond, yn anffodus, nid yw'n annisgwyl o gwbl. Mae'r canfyddiadau yn cadarnhau ein pryderon am Gredyd Cynhwysol - diffyg amserlen prosiect clir a realistig ac mae maint a chwmpas y prosiectau arddangos wedi'i gwneud yn gynyddol anodd i'n haelodau baratoi eu tenantiaid a chynllunio eu hadnoddau. Mae'n wirioneddol eironig fod yr Adran Gwaith a Phensiynau'n disgwyl i'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol gael trefn ar eu cartrefi a'u harian pan eu bod hwy'n amlwg yn ei chael yn anodd ymdopi gyda'r newidiadau eu hunain.

Wrth symud i'r dyfodol credwn fod angen i'r Adran Gwaith a Phensiynau roi gwybodaeth gryno ar gynnydd gyda Chredyd Cynhwysol - beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio, a sicrhau fod pob un elfen o Gredyd Cynhwysol wedi ei phrofi cyn ei ymestyn, heb ruthro i gadw at yr amserlen o 2017 a roddwyd. Rydym eisoes wedi mynegi pryder am daliadau uniongyrchol dan y Credyd Cynhwysol, lle telid budd-dal tai yn uniongyrchol i denantiaid ac nid i'r landlord. Credwn y dylai tenantiaid gael y dewis ac rydym heddiw'n ailadrodd hyn gan y canfu ymchwil gan yr ymgynghorwyr Policis fod naw allan o ddeg o denantiaid tai cymdeithasol eisiau i'w budd-dal tai barhau i gael ei dalu'n uniongyrchol i'w landlord."