Jump to content

14 Mehefin 2018

Will Atkinson o CHC yn bwrw golwg ar drychineb Tŵr Grenfell flwyddyn ar ôl y drychineb

Will Atkinson o CHC yn bwrw golwg ar drychineb Tŵr Grenfell flwyddyn ar ôl y drychineb
Mae'n anodd anghofio y lluniau teledu o Dŵr Grenfell yn llosgi ar 14 Mehefin, yr arswyd ar gyfer y bobl oedd yn byw yno, i'r teuluoedd a gollodd anwyliaid a'r preswylwyr a oroesodd ond a gollodd bopeth yn y tân.


Cynnodd y tân ychydig cyn 1am yng nghegin fflat ar y pedwerydd llawr a'r bloc tŵr 23 llawr yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain ac o fewn munudau roedd wedi rhuthro lan tu allan pob un o'r pedair ochr gyda'r rhan fwyaf o'r lloriau uchaf ynghyn o fewn ychydig oriau.


Canfuwyd yn ddiweddarach fod y cladin newydd - a wnaed o ACM (deunydd alwminiwm cyfansawdd) wedi galluogi'r tân, a arweiniodd at 72 marwolaeth, i ledaenu mor gyflym.


Mae 14 Mehefin yn nodi 12 mis ers y drychineb ofnadwy ac yn y flwyddyn honno bu Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio'n galed gyda'i aelodau a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn blociau tŵr gyda'i aelodau a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn blociau tŵr yng Nghymru er mwyn cadw pobl mor ddiogel ag y gallant fod yn eu cartref.


Edrychodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni CHC, ar y tân yn datblygu yn yr hyn a ddaeth un o drychinebau modern gwaethaf Prydain.


Dywedodd: "Dydych chi ddim yn disgwyl gweld rhywbeth fel hyn yn y 21ain Ganrif. Wrth i effaith enfawr y tân ddod yn amlwg, roedd yn glir y byddai cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio'n galed i sicrhau fod tenantiaid y bloc tŵr yn ddiogel ac y byddai'r Llywodraeth yn disgwyl sicrwydd gan y sector. Y cwestiwn amlwg oedd 'Fedrai rhywbeth ddigwydd yma?'


"Ar unwaith, bu CHC yn gweithio gyda'i aelodau ac awdurdodau tân lleol i adolygu mesurau diogelwch tân ac i gefnogi aelodau i roi sicrwydd i'w tenantiaid.


"Ein swydd gyntaf oedd cael darlun o beth oedd y sefyllfa yng Nghymru. Felly fe wnaethom gasglu gwybodaeth ar y 21 o flociau tŵr cymdeithasau tai yng Nghymru, yn cynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer eu cladin. Nid oes canolbwynt ar gyfer y math yma o wybodaeth felly cymerodd lawer iawn o waith i fod yn hollol siŵr fod y darlun llawn gennym. Roedd ein Grŵp Cyflenwi Diogelwch Tân, sydd wedi sefydlu'n dda, yn cynnwys swyddogion diogelwch tân gan gymdeithasau tai ac ymladdwyr tân, yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth yn ystod y cyfnod hwn.


"Roedd yn hanfodol wybod pa flociau tŵr, os oedd rhai, oedd â chladin tebyg. Gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, anfonwyd samplau i lab profion BRE a chanfuwyd fod gan dri allan o'r 21 bloc tŵr gladin ACM.


"Pan ddynodwyd fod gan Cartrefi Dinas Casnewydd gladin ACM, fe wnaethom eu cefnogi drwy'r sefyllfa. Gwnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd yn sicr mai preswylwyr oedd y rhai cyntaf i wybod, ac fe wnaethom roi sicrwydd iddynt fod llawer o fesurau diogelwch tân yn eu lle, o warden, larymau tân a systemau chwistrellu.


"Fe wnaethom hefyd ddelio gyda'r cyfyngau, gan roi ymatebion sector-cyfan i gwestiynau'r wasg ar ran y cymdeithasau tai fel nad oedd ganddynt faich ychwanegol o bryder, wnaeth hefyd alluogi cyfathrebu llawer mwy llyfn. Fe wnaethom gynnal sesiwn wybodaeth dechnegol i newyddiadurwyr, gan roi sylw i bob agwedd o ddiogelwch adeiladu a'r sefyllfa bresennol, i gefnogi'r cyfryngau i adrodd y stori'n gywir."


Cyhoeddodd y Fonesig Judith Hackitt adroddiad terfynol ei Hadolygiad Annibynnol ar Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân ym mis Mai ac awgrymodd gyfres o argymhellion ar wella systemau i sicrhau diogelwch tenantiaid mewn adeiladau tal. Gallwch ddarllen ein hymateb i hynny yma



Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, mae'r dialog rhwng yr aelodau a'r Llywodraeth yn dal ar agor a dywedodd Will fod CHC yn bartneriaid allweddol mewn sicrhau diogelwch tân.


"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu canfyddiadau Adolygiad Hackett ac rydym wedi mynd ymhellach drwy alw am wahardd defnyddio deunyddiau llosgadwy ar gyfer cladin ac insiwleiddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn symud i weithredu gwaharddiad o'r fath, yn amodol ar ymgynghoriad. Rydym yn parhau i gynrychioli'r sector ar Grŵp Ymgynghori Diogelwch Tân Llywodraeth Cymru, gan gynghori'r cabinet ar ddiogelwch tân yn dilyn Grenfell.


"Mae gwelliannau'n parhau i ddiogelwch tenantiaid ac rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae cladin ACM yn cael ei dynnu o'r blociau hynny lle mae a gosodwyd systemau chwistrellu yn y mwyafrif o flociau tŵr cymdeithasau tai erbyn hyn."