Tân Tŵr Grenfell
“Cawsom ein syfrdanu a'n tristau gan y newyddion am Dŵr Grenfell yr wythnos hon a chydymdeimlwn yn fawr gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.
Mae gan gymdeithasau tai ymrwymiad hir-sefydlog i gynnal a chadw ac adeiladu cartrefi i'r safonau uchaf. Mae ein haelodau’n buddsoddi'n helaeth mewn gwella cartrefi presennol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn cydymffurfio gyda rheoliadau adeiladu a thân a diogelwch Cymru wrth adeiladu cartrefi newydd neu wneud gwaith adnewyddu sylweddol.
Tra disgwyliwn fanylion pellach am ymchwiliad cyhoeddus Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae ein haelodau yn gweithio gydag awdurdodau tân lleol i adolygu mesurau diogelwch tân cyfredol a rhoi sicrwydd i denantiaid.
Fel corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, rydym yn gweithio gyda'n haelodau i gasglu gwybodaeth ar y mesurau diogelwch tân mewn blociau tŵr ledled Cymru.
Cafodd systemau chwistrellu dŵr eu gosod mewn hanner blociau tŵr ein haelodau ac mae mesurau diogelwch cadarn eraill yn y gweddill. Ôl-osodwyd fesurau diogelwch tân safon uchel eraill ym mlociau tŵr eraill megis insiwleiddio atal tân Rockwool.
Nid yw ein haelodau byth yn hunanfodlon pan ddaw i faterion diogelwch. Diogelwch tenantiaid yw’r peth pwysicaf oll ac mae’n dal i fod yn brif flaenoriaeth ein haelodau. Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i adeiladu a chynnal a chadw stoc i’r safonau diogelwch uchaf posibl, a byddwn yn parhau i fonitro ac ymgysylltu â phob argymhelliad am ddiogelwch."