Jump to content

26 Hydref 2018

Trafod Cyllideb Llywodraeth Cymru

Trafod Cyllideb Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd cyllideb fanwl Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, ac mae'n debyg mai hi fydd y Gyllideb olaf y bydd Mark Drakeford yn ei chyhoeddi fel Ysgrifennydd Cyllid gan fod y ras i fod yn arweinydd Llafur Cymru ar ei hanterth ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd y penawdau ychydig wythnosau yn ôl ac roedd nifer o gyhoeddiadau fydd yn effeithio ar y sector tai yng Nghymru. Y cyhoeddiad mawr a welsom yn y ddrafft gyllideb oedd y caiff cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl a digartrefedd ei neilltuo tan ddiwedd tymor hwn y Cynulliad, yn dilyn ein hymgyrch Materion Tai Cymru gyda Cymorth Cymru. Bydd y sicrwydd hirdymor a roddir gan y cyhoeddiad yn sicrhau y gall llawer o brosiectau cymdeithasau tai yng Nghymru barhau i gefnogi miloedd o bobl blwyddyn, o oroeswyr cam-drin domestig i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl.


Roedd Cyllideb Cymru hefyd yn cynnwys cyhoeddiad am £35 miliwn ychwanegol o gyllid fydd ar gael drwy'r Grant Tai Cymdeithasol. Aiff y swm atodol hwn ymhell i sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei tharged o 20,000 o gartrefi erbyn diwedd tymor hwn y Cynulliad. Drwyddi draw, roedd y gyllideb yn un dda ar gyfer tai ac yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni ein Cytundeb Cyflenwi Tai a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a gyflwynir gan raglen Cefnogi Pobl.


Er ei bod yn gyllideb dda i'r sector tai, gyda chynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer iechyd hefyd, bu toriadau mewn addysg a hefyd Lywodraeth Leol. Bu arweinwyr Llywodraeth Leol yn gyflym i feirniadu'r setliad, gan ddweud eu bod wedi 'rhedeg allan o hewl' yn eu hymdrechion i ddiogelu gwasanaethau creiddiol rhag toriadau. Ni chawsant fawr o groeso gan Alun Davies, Ysgrifennydd Gabinet a ddywedodd fod cynghorau'n gofyn am fwy o arian yn ymdebygu i 'Oliver Twist'.


Ben arall yr M4, bydd Phillip Hammond Canghellor y Trysorlys yn mynd â'i friffces coch enwog i Dŷ'r Cyffredin ar gyfer Cyllideb y Deyrnas Unedig ddydd Llun. Gan i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol addo diwedd llymder, gobeithiaf y bydd Cyllideb y Deyrnas Unedig gryn dipyn yn wahanol i'r rhai a welsom yn yr ychydig flynyddoedd diweddar, er nad wyf yn dal fy ngwynt. O gofio'r sylw diweddar yn y wasg, credaf ei bod yn debygol y bydd mwy o gyhoeddiadau am newidiadau i'r system Credyd Cynhwysol er bod union natur y cyhoeddiadau'n parhau'n annelwig.


Mae cyhoeddiadau cyllideb yn rhan ddiddorol o'r flwyddyn wleidyddol a gallant fod yn eithaf dadlennol wrth ddangos agweddau ac yn aml amcanion cyffredinol llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Mae Llywodraeth Cymru mewn cyfnod o newid ar hyn o bryd ac mae cyfle gweddol dda y gallai Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid cyfredol, fod yn Brif Weinidog Cymru sy'n cyflawni ar y gyllideb. Nid yw wedi cymryd unrhyw gamau eithafol gyda'r gyllideb sy'n dangos dull gwahanol iawn o arweinyddiaeth a allai fod ganddo yn yr arfaeth, ond fe wnaeth gydnabod mai hon oedd y "gyllideb anoddaf" iddo ymwneud â hi. Bydd yn ddiddorol gweld p'un ai fydd cynlluniau Canghellor y Trysorlys yr wythnos hon yn gwneud swydd Ysgrifennydd Cyllid nesaf Cymru yn haws ...