Jump to content

22 Mai 2020

Tîm cyngor arian yn helpu tenantiaid i achub miloedd o bunnau

Tîm cyngor arian yn helpu tenantiaid i achub miloedd o bunnau
Bu cynghorwyr arian ac ynni Tai Melin yn rhoi mwy o help nag erioed i breswylwyr yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn. Yma maent yn esbonio sut y buont yn helpu preswylwyr i aros yn ddiogel ac yn saff yn eu cartrefi.


“Buom yn brysur yn rhoi cefnogaeth, arweiniad a help i unrhyw breswylwyr sydd ei angen, gan ffonio i wirio eu bod yn iawn, a holi os ydynt angen unrhyw gymorth.


Yn nhair wythnos gyntaf y cyfnod cyfyngiadau symud, helpodd y tîm y preswylwyr i arbed £374,279.67 drwy gyngor ar arian ac ynni, canfod hawliau budd-daliadau, newid cyflenwyr a gwneud cais am ostyngiadau, ar ôl derbyn 122 atgyfeiriad am gyngor ar ynni ac arian.


Er bod yr ystadegau’n edrych yn rhagorol, ar y bobl tu ôl iddynt rydyn ni eisiau canolbwyntio.


Pan gysylltodd Sandra* â ni, wyddai hi ddim beth i’w wneud. Roedd fel arfer yn dibynnu ar ei theulu am help, ond roedd yn hunanynysu oherwydd y pandemig. Fe wnaeth ein tîm ei helpu i wneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor, Taliad Tai ar Ddisgresiwn a chynnig cyngor iddi gyda’i biliau ynni. Roedd Sandra mor ddiolchgar ac ni allai gredu ein bod yn medru cynnig cymaint o help.


Roedd Billy*, person sengl gyda thri o blant hŷn yn yn hunanynysu oherwydd ei fod mewn categori risg uchel ac yn pryderu sut y byddai’n ymdopi gyda’i arian. Fe gynhaliodd y tîm asesiad Credyd Cynhwysfawr a gwneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor, sy’n golygu y bydd Bily mewn sefyllfa well hyd yn oed pan fydd popeth yn dychwelyd i’r arferol.


Fe wnaethom osod mesuryddion deallus yng nghartref newydd Carla* yn lle mesuryddion credyd a defnyddio Cronfa Cymorth ar Ddisgresiwn y Llywodraeth i gael oergell-rhewgell newydd iddi i helpu gyda biliau ynni. Cafodd hefyd ei hatgyfeirio at ein Tîm Cyflogaeth fel y gellir ei chefnogi yn ôl i gyflogaeth.


Roedd Tony* wedi byw gyda gwerth dros £550 o ddyled trydan am nifer o flynyddoedd, ac ni fedrai dalu am yr ynni roedd yn ei ddefnyddio. Fe ddaeth ein tîm o hyd i dariff mwy addas, fforddiadwy iddo a gwneud cais i Gronfa Cymorth Cwsmeriaid SSE/Swalec a chafodd y ddyled ei chlirio.


Mae preswylwyr wedi cysylltu â ni i ddweud pa mor wirioneddol ddiolchgar ydynt am yr help, cymorth a’r gefnogaeth a roddwn.”


Medrwch weld yr canllawiau a’r gefnogaeth sydd ar gael i gwsmeriaid Melin ar gael yma


moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffonio 01495 745910.


*newidiwyd enwau er mwyn gwarchod cyfrinachedd preswylwyr


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi