Jump to content

10 Gorffennaf 2017

Tendro a Chaffael: Ystyriaethau Ymarferol




I lawer o sefydliadau, gall tendro a chaffael ymddangos yn dasg anodd, yn arbennig os ydynt yn newydd iddi. Gyda chynifer o faterion a dogfennau i'w hystyried, gall y broses godi arswyd.


Mae llawer o faterion cyfreithiol i'w hystyried wrth dendro a chaffael, a hefyd ymrwymo i gontractau yn dilyn tendr llwyddiannus. Nodwn islaw rai o'r ystyriaethau allweddol.

Adnoddau


Un o'r pwyntiau cyntaf i'w hystyried yw p'un ai oes gennych ddigon o adnoddau wedi'u hymroi i ymestyn y tendr yn effeithlon, yn neilltuol ar amser. Gall methiant i gydymffurfio gyda therfynau amser trwy amryfusedd arwain at gosbau cynnar neu, yn yr achos gwaethaf, derfynu ac atebolrwydd am iawndal.

Prif ystyriaethau'r contract


Mae prif ystyriaethau'r contract yn cynnwys diffinio'n glir beth yw cwmpas y gwaith/gwasanaethau sydd i'w darparu. Dylai cwmpas y gwaith/gwasanaethau ddiffinio'n glir beth yw'r amserlen a'r dyddiadau cau a ddisgwylir yn ogystal â Dangosyddion Perfformiad Allweddol penodol a chlir. Mae'n bwysig eich bod yn glir am eich prif oblygiadau contractiol.

Hawliau Eiddo Deallusol


Mae un agwedd o'r ystyriaethau contractiol y gellir eu diystyru yn aml yn ymwneud â hawliau eiddo deallusol (IPR). Mae'n bwysig sicrhau y caiff eich IPR ei ddiogelu a bod gennych yr hawl i ddefnyddio/is-drwyddedu unrhyw IPR trydydd parti angenrheidiol.

Penodi Isgontractwyr


Weithiau gall penodi isgontractwyr arwain at broblemau os na chaiff y trefniadau contractiol gyda nhw eu gweithredu'n gywir ac yn gynhwysfawr. Os yn bosibl, dylai'r rhan fwyaf o'r trefniadau gydag isgontractwyr fod yn eu lle (o leiaf mewn egwyddor) amser tendro.


Hefyd, pan fyddwch yn penodi isgontractwyr, mae contractau wedi'u drafftio'n ofalus yn allweddol i sicrhau fod y sefyllfa gyfreithiol rhyngoch chi, y cleient a'ch isgontractwyr yn glir. Mae'n arferol i brif ddarpariaethau perthnasol y contract fod "gefn i gefn" gyda'r isgontractwr. Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwch drosglwyddo i'r isgontractwr unrhyw atebolrwydd a all fod gennych i'r prif gontractwr fel canlyniad i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan yr is-gontractwr.


I gael cyngor cynhwysfawr ar y materion cyfreithiol yn ymwneud â thendro a chaffael, cysylltwch â Steve Thompson neu Tegen Quinn ar 029 2082 9100 os gwelwch yn dda.
Stephen Thompson
– Partner yn Darwin Gray LLP