Jump to content

11 Gorffennaf 2018

Tenantiaid eisiau gweld newidiadau yn y Credyd Cynhwysol

Tenantiaid eisiau gweld newidiadau yn y Credyd Cynhwysol
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi galw ar y cyd gyda’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Tai yr Alban a Ffederasiwn Tai Gogledd Iwerddon am ad-drefnu sylweddol i’r system Credyd Cynhwysol.


Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gyda 3,475 o bobl yn byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru, mae gan bob person ar gyfartaledd ddyledion gwerth £420.


Mae cynllun budd-dal blaenllaw y Llywodraeth yn gwthio teuluoedd i ddyled, gan achosi dioddef a chaledi i denantiaid a bygwth sefydlogrwydd ariannol cymdeithasau tai.


Gallwch ddarllen y stori’n llawn yma:


Mae Colin Porter, 54 oed, yn denant i Gymdeithas Tai’r Rhondda ac yn credu fod angen i newidiadau mawr ddigwydd yn fuan.


Mae Colin yn byw ar ei ben ei hun mewn fflat un ystafell wely yn Ystrad Rhondda ac wedi bod yn derbyn swm yn cyfateb i £65 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol, sy’n cael ei dalu’n fisol. Mae hyn yn golygu, erbyn iddo dalu biliau’r cartref i gyd, fod ganddo tua £20 yr wythnos ar ôl i brynu bwyd.


Mae cyfandaliad yn cael ei dalu i’w gyfrif unwaith y mis ond mae’n dweud ei bod hi’n anodd iawn cyllidebu ar gyfer gwahanol bethau, yn enwedig ar ddiwedd y mis, pan nad oes fawr ddim ar ôl. Byddai’n well ganddo gael dau daliad, un bob pythefnos, ac mae’n teimlo y byddai hyn yn rhoi gwell rheolaeth iddo dros ei arian.


Mae hefyd yn teimlo y dylai fod yna lawer mwy o empathi gyda rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, ac y dylai pob person gael eu hasesu yn unol â’u hamgylchiadau personol eu hunain. Mae’r system yn teimlo’n hynod amhersonol ac mae’n anodd cael atebion, meddai.


Dywedodd Colin: “Rwyf wed bod yn chwilio am waith am fisoedd ond yn ffaelu dod o hyd i ddim byd. Dwi ddim yn gallu gyrru ac er bod yna gysylltiadau cludiant da yn yr ardal dyw cludiant cyhoeddus ddim yn dechrau tan 6 y bore ac mae hynny’n cyfyngu llawer ar rywun.


“Rwy’n mynd i’r Ganolfan Waith ddwywaith y mis ac yn gorfod profi popeth wy wedi bod yn wneud i chwilio am waith. Maen nhw eisiau i chi dreulio 35 awr yn brysur yn chwilio felly rwy’n sgwennu popeth wy wedi’i wneud ar daenlen a’i rhoi iddyn nhw.


“Rwyf wedi llwyddo i gael cwpl o jobsys trwy asiantaethau ond maen nhw ar gontractau dim oriau gydag isafswm cyflog ac fe all hyn wneud cawlach gyda thaliadau yn y dyfodol. Mae’r taliadau’n stopii’n llwyr nes bod e i gyd wedi cael ei ail weithio allan ac mae’n amhosib gwybod faint a phryd bydd e’n cael ei dalu i’r cyfri. Ac mae hynny’n bryder mawr mae pan mae biliau i’w talu.”


Mae Colin yn casáu ansicrwydd y system.


“Rwy’n meddwl taw’r ffordd roedd e wedi ei weithredu sy ddim yn gweithio. Ddylen ni ddim colli mas ar arian oherwydd yr ailasesu, ac mae mor anodd cael atebion pan y’ch chi’n galw. Does dim cyswllt go iawn gyda’r cwsmer a does gyda chi ddim syniad os a phryd bedd e’n cael ei dau i’ch cyfri.”


Dywed Colin bod dod o hyd i swydd yn mynd yn anoddach o hyd, yn enwedig yn ei oedran. Mae wedi anfon mwy na 300 o e-byst ynglŷn â swyddi posib a derbyn dim ond dyrnaid o atebion.


“Mae gen i addysg dda a digonedd o brofiad ond mae’n anodd iawn. Mae ’na ryw stigma ynghylch bod ar y dôl ond does dim diffyg ymdrech. Dwi ddim yn bwyta fel y dylwn i ac rwy’n byw ar fisgedi gan fod arian mor brin. Fe allwch chi brynu paced mawr am ddim ond 40c. Dyw hi ddim mor ddrwg nawr gyda’r tywydd twym ond roeddwn i’n benderfynol o beidio troi’r gwres ymlaen yn ystod y gaeaf ac yn llwyddo trwy wisgo salopettes drwy’r tywydd oer.


“Rwy’n ofni ’mod i wedi mynd yn sinigaidd iawn yn sydyn iawn ynghylch Credyd Cynhwysol. Mae gofyn iddo gael ei gyflwyno’n llawer gwell mae angen i’r cyfathrebu fod yn llawer gwell ac rwy’n meddwl y dylai gael ei dalu bob pythefnos gan y byddai hynny’n ei gwneud hi’n llawer haws cael dau ben llinyn ynghyd.”