Jump to content

22 Tachwedd 2019

Tenant yn arbed miloedd o bunnoedd diolch i gyngor

Tenant yn arbed miloedd o bunnoedd diolch i gyngor
Mae Tîm Cyngor Arian Trivallis yn treulio eu dyddiau yn cynghori tenantiaid ar bynciau yn cynnwys taliadau rhent, arbed arian a cheisiadau am gartrefi a budd-daliadau. Caiff yr wybodaeth hefyd ei chynnwys yn eu cylchgrawn 'Valleys' a gaiff ei ddosbarthu bob chwarter.


Arbedodd Mr Smith, tenant i Trivallis, swm sylweddol o arian ar ôl darllen cyngor yn Valleys a siarad gyda chynghorydd arian. Mae'n rhannu ei stori islaw.


"Roeddwn yn edrych drwy'r cylchgrawn a gweld 'os ydych yn hawlio Premiwm Anabledd Difrifol ni fydd angen i chi symud i'r Credyd Cynhwysol;'.


"Doedd gen i ddim syniad fod budd-dal o'r fath.


"Rwy'n credu mai'r hyn ddaliodd fy llygad oedd y ffaith fod sôn am Credyd Cynhwysol. Gan fy mod yn symud tŷ yn fuan, roeddwn yn gwybod y byddai'n rhaid i mi ei hawlio ond nawr mae fy arian Premiwm Anabledd Difrifol yn cael ei ddiogelu ac ni fydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau eraill.


"Ar ôl darllen y meini prawf, rwy'n credu fod gen i hawl i'r Premiwm Anabledd Difrifol.


"Codais y ffon a chysylltu gyda tîm Cyngor Arian Trivallis. Ar ôl siarad am y sefyllfa, dywedodd Vikki o'r tîm wrthyf y dylwn fedru ei gael wedi ei ôl-ddyddio yn ogystal â dechrau hawlio'r Premiwm a fyddai'n taliad wythnosol ychwanegol. Fe wnaeth awgrymu wedyn y dylwn ffonio'r Adran Gwaith a Phensiynau.


"Siaradais gyda'r dyn o'r Adran a chytunodd y dylwn fod yn derbyn y taliad. Fe wnes orffen yr holl gamau angenrheidiol dros y ffôn a chlywais y byddwn yn cael ôl-daliad o fewn chwe diwrnod gwaith.


"Ar fore'r dydd Llun, dim ond dridiau ar ôl i mi ffonio, cafodd chwech amlen frown eu postio drwy fy nrws ac roedd fy lefelau stres yn mynd drwy'r to!


"Fedrwn i ddim credu pan agorais nhw. Roedd pob un ohonynt yn dweud fy mod wedi derbyn hyn a'r llall felly meddyliais y byddai'n well i mi edrych ar-lein. Roeddent wedi dyfarnu dros £14,000 i mi gan ei fod yn arian oedd yn ddyledus i mi o beidio cael y Premiwm Anabledd Difrifol. Dywedwyd wrthyf hefyd y byddwn yn cael £65 ychwanegol yr wythnos o hyn ymlaen.
"Mae'r taliad hwn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fy nghartref. Nid yw'r straen yno mwyach ac rwy'n gwybod y gallaf dalu am fy ngofal fy hun pan fyddaf yn symud tŷ ac mae hynny'n dawelwch meddwl. Rwy'n teimlo'n llawer hapusach a heb y cylchgrawn a'r gefnogaeth gan Vikki, fyddwn i ddim wedi medru cael y taliad wedi'i ôl-dyddio.


"Roedd popeth am y broses yn syml iawn. Er iddi gymryd ychydig o amser i fynd trwodd i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fe wnes ateb eu holl gwestiynau a thalwyd yr arian i mi o fewn ychydig ddyddiau.


"Byddwn wedi cael fy symud i'r Credyd Cynhwysol ond fe wnaeth y cylchgrawn i mi sylweddoli fod opsiynau eraill i fi. Rwyf wirioneddol yn meddwl y gallai helpu llawer o bobl, a dyna pam mod i eisiau rhannu fy stori.


"Rwy'n bwriadu symud yn nes at fy nheulu, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Rwyf yn wir yn teimlo y gallaf wneud beth rwyf eisiau nawr ac alla i ddim aros i weld beth sy'n digwydd nesaf."


Nid dim ond adeiladu cartrefi mae cymdeithasau tai. Eu nod yw creu cymunedau cryf a chynaliadwy drwy gefnogi tenantiaid yn eu bywydau bob dydd. I weld gweledigaeth ein sector, cliciwch yma.



Mae cefnogi tenantiaid wedi bod yn sylfaenol i'r 30 mlynedd diwethaf. Gweler ein llinell amser yma:





Gweld y llinell amser lawn yma (PDF).