Jump to content

07 Chwefror 2018

Tenant Tai Taf yn ennill gwobr ac yn cael swydd mewn carchar yn dilyn lleoliad llwyddiannus

Tenant Tai Taf yn ennill gwobr ac yn cael swydd mewn carchar yn dilyn lleoliad llwyddiannus
Symudodd Natalie i'w chartref a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Taf (THA) yn 2016. Unwaith iddi ymgartrefu, penderfynodd ei bod yn amser canolbwyntio ar ei dyfodol a bod yn fodel rôl gref ar gyfer ei mab. Er ei bod yn awyddus i wella ei bywyd, nid oedd ganddi unrhyw brofiad o waith na chymwysterau.


Roedd Natalie yn ansicr beth i'w wneud nes y gwelodd stondin THA yn ysgol ei mab yn hysbysu hyfforddiant am ddim. Rhoddodd ei henw i lawr am nifer o gyrsiau a chwrdd gyda Clare, Swyddog Buddsoddi Cymunedol THA, i siarad am sut y gallai gyflawni ei nodau.


Yn dilyn y sgwrs, dechreuodd Natalie wirfoddoli gyda thîm cefnogi Pobl Hŷn THA tra'r oedd yn ennill cymwysterau dryw raglen hyfforddiant y gymdeithas tai. Ar ôl ychydig wythnosau, dywedodd Clare wrth Natalie am swydd gyda phrosiect Ymddiriedolaeth St Giles a gredai fyddai'n gweddu'n berffaith i'w sgiliau.


Gyda chefnogaeth Clare, sicrhaodd Natalie gontract chwe mis am 16 awr yr wythnos ar gyflog gyda'r Ymddiriedolaeth. Fel rhan o'r swydd, cafodd hyfforddiant fel Cynghorydd Cymheiriaid ac enillodd gymhwyster Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3.


Ers gorffen y contract, enillodd deitl 'Hyfforddai Gorau' yng ngwobrau cenedlaethol 'Menywod mewn Tai' a chafodd swydd lawn-amser fel Gweithiwr Cefnogaeth yng Ngharchar Caerdydd.


Dywedodd Natalie:


"Doeddwn i ddim wedi gweithio o'r blaen felly roedd cael hyn fel fy swydd gyntaf yn swnio fel breuddwyd. Roeddwn yn wirioneddol fwynhau bod yn Gynghorydd Cymheiriaid, ac aeth y tîm cefnogi Pobl Hŷn allan o'u ffordd i fy helpu i gael cymaint o brofiad ag sydd modd. Roedd ennill y wobr 'Hyfforddai Gorau' yn gymaint o gamp i mi - doeddwn i erioed wedi teimlo'n hapusach!


"Mae fy nhaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi fy ysbrydoli i fynd ar ITV i siarad am fy mhrofiadau a chynrychioli pobl ifanc ar Grŵp Llywio Ymgynghorol Hyb Cefnogaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Gobeithiaf y bydd fy stori yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan."