Jump to content

15 Hydref 2018

Tenant Cymdeithas Tai Merthyr yn cael cynhwysion bywyd iachach

Tenant Cymdeithas Tai Merthyr yn cael cynhwysion bywyd iachach
Dechreuodd Cymdeithas Tai Merthyr ei phrosiect 'Methu Coginio, Coginio'n Araf' i helpu ei thenantiaid i droi cynnyrch rhad o'r cynllun bwyd cydweithredol lleol yn brydau iach.


Mae'r tenant Jane Davies* yn medi manteision y prosiect, ac yn awr mae'n coginio prydau llawer mwy iach ar gyfer ei theulu.


Dywedodd: "Cafodd pob un ohonom gwcer araf ar ddechrau'r cwrs, gyda'r holl offer a'r cynhwysion oedd eu hangen ar bob sesiwn. Ar y diwedd, cawsom lyfr gyda'r holl rysetiau, yn cynnwys cyfarwyddiadau a rhestr cynhwysion, fel y gallem ddal ati i wneud prydau adref.


"Gwelais yr effaith a gafodd hyn ar ein hiechyd ac ar fy mhwrs. Mae prydau bwyd yn awr yn costio llawer llai na'r bwyd cyflym yr oeddem yn arfer ei fwyta. Gallaf brynu darn o gig a llysiau am tua £5, a gall hynny fwydo fy holl deulu'n rhwydd. Mae mor rhwydd rhoi cynhwysion yn y cwcer araf ar ddechrau'r dydd, a pheidio gorfod poeni am syniadau am beth i'w fwyta."


Diolch i'r prosiect, mae Cymdeithas Tai Merthyr yn dweud y bu gwelliant yn hyder a llesiant y tenantiaid, gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn penderfynu dilyn cyrsiau hylendid bwyd fel y gallant wirfoddoli gyda 'Methu Coginio, Coginio'n Araf'.


Gwyddom fod creu cymunedau iach yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac yn eu paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Bydd adeiladu cartrefi safon uchel mewn ardal sydd â mynediad i feddygfeydd teulu, siopau a gwasanaethau tebyg i 'Methu Coginio, Coginio'n Araf' yn helpu tenantiaid i fyw bywydau iachach, a mwy hapus yn yr hirdymor.


Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein sector o wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Darllenwch fwy ar ein gweledigaeth yma.


*defnyddiwyd ffug enw oherwydd sensitifrwydd