Jump to content

09 Mawrth 2015

Talu Budd-dal Tai yn Uniongyrchol - Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu adroddiad terfynol Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd y llynedd i ystyried effaith talu budd-dal tai yn uniongyrchol yn y sector rhent cymdeithasol a thenantiaethau cynaliadwy. Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a rhai o'n haelodau ynghyd ag ystod o gyrff eraill â diddordeb, gyfanswm o 15 argymhelliad. Mae nifer o'r rhain yn golygu fod angen gweithredu gan landlordiaid cymdeithasol i'w rhoi ar waith, er y dylid nodi fod llawer eisoes ar y gweill (er enghraifft, Argymhelliad 2 sy'n awgrymu fod awdurdodau lleol yn cysylltu gyda'u landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol i gytuno sut y byddant yn trin y symud i Credyd Cynhwysol; proses y gwyddom sy'n digwydd eisoes ac y mae CHC yn ei hwyluso yng Nghyfarfod Strategol Cyfran 1 ym mis Mawrth). Mae'r rhestr lawn o argymhellion yr awgrymir bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu datblygu, ym mhob achos mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill, fel sy'n dilyn:

(Rhoddir y berchnogaeth a awgrymir ar gyfer pob argymhelliad mewn llythrennau italig).

2. Awdurdodau lleol yn ymgysylltu gyda'u landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol i gytuno sut y byddant yn trin y symud i Gredyd Cynhwysol - Awdurdodau Lleol/Darparwyr Tai Sector Rhent Cymdeithasol

5. Dylai landlordiaid ddynodi nifer y tenantiaethau dan sylw cyn ymgysylltu gydag awdurdodau lleol - Awdurdodau Lleol/Darparwyr Tai Sector Rhent Cymdeithasol

6. Wrth fapio, sicrhau fod gan ddarparwyr y gallu i ddarparu'r gwasanaethau y maent yn hawlio y gellir eu cyflenwi. Mae hefyd yn hollbwysig dynodi bylchau mewn darpariaeth ac ystyried atebion. - Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol.

7. Dylid paratoi rhestr rhwydd ei defnyddio yn cynnwys:

• Darparwyr cymorth - wedi'u rhannu yn feysydd arbenigol [h.y. ariannol, tenantiaeth, landlordiaid ac yn y blaen]);

• Dylai'r rhestr gael ei diweddaru'n gyson - rhifau ffôn, enwau cysylltiadau a chyfeiriadau e-bost/gwefannau;

• Mynediad ar gael yn rhad ac am ddim i bawb; a

• Cyhoeddusrwydd eang.

Gellid cytuno ar hyn yn nhrafodaethau Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol.

- Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol

8. Fel rhan o Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol a'r gwaith mapio, dylai awdurdodau lleol a landlordiaid ymchwilio defnyddio rhwydweithiau atgyfeirio - Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol

9. Dylai'r sector ystyried sut y caiff anheddau eu gosod yn y dyfodol a sicrhau fod cysondeb rhwng darparwyr awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig - Awdurdodau Lleol/Darparwyr Tai Sector Rhent Preifat.

10. Mae angen i brosesau Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol ystyried y gwasanaethau a ddarperir gan weithwyr cymorth fel y bo angen a'u gallu i gyfeirio cwsmeriaid - Awdurdodau Lleol/Darparwyr Tai Sector Rhent Cymdeithasol.

11. Dylid codi ymwybyddiaeth gyda'r Pwyllgorau Cydweithredu Rhanbarthol a'r rhaglen Cefnogi Pobl am y gwaith a wneir yn y maes ac ystyried y goblygiadau ar gyfer cynildeb a'r gofynion ar gyllidebau a chynaliadwyedd gwasanaethau - Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol

12. Parhau i ymgysylltu gyda'r rhaglen Darparu Cymorth Cynhwysol yn Lleol i ddylanwadu ar welliannau mewn rhannu data - yn arbennig mewn amser-real. Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol.

13. Sicrhau - fel rhan o'r gwaith mapio - fod adnoddau digonol mewn ardaloedd gwledig a threfol yn cynnig cymorth ariannol - Adran Gwaith a Phensiynau/Awdurdodau Lleol/Landlordiaid - Darparu Credyd Cynhwysol yn Lleol.

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: “Byddwn yn tynnu sylw'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr Awdurdodau Lleol a darparwyr tai'r Sector Rhentu Cymdeithasol at yr argymhellion perthnasol. Byddaf yn ystyried yn ofalus y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ganlyniad i argymhelliad 14. O ran argymhelliad 15, ynghylch dewis tenant o ran tâl budd-dal, roeddwn eisoes wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Freud, cyn cwblhau'r adroddiad hwn, ac rwy'n aros am ei ateb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r holl faterion hyn, yn cymryd camau pan fydd hyn o fewn ein cylch gwaith, ac yn annog rhanddeiliaid i helpu tenantiaid i ymdopi â'r newidiadau, a chynnig sylwadau pellach i Lywodraeth Prydain fel y bo angen.”

Mae'r Adroddiad ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://gov.wales/docs/desh/publications/150225-direct-payments-and-sustainable-tenancies-en.pdf