Jump to content

02 Awst 2019

Taith i Cwpan Digartrefedd y Byd

Taith i Cwpan Digartrefedd y Byd
Yn ystod wythnos Cwpan Digartrefedd y Byd, mae'n wych rhannu straeon dwy ferch sy'n rhan o dîm Cymru, ar ôl cael eu helpu allan o ddigartrefedd gan Gorwel, Uned Busnes o fewn Grŵp Cynefin. Darllenwch eu straeon ysbrydoledig yma:


Dywedodd Chloe, sy'n dod o Brestatyn yn wreiddiol: " Fe brofais gam-driniaeth ddomestig yn y teulu, a phan fu farw fy nain doedd gen i ddim unman i fyw. Drwy lwc, es at Grŵp Cynefin ac rwyf wedi byw yn yr Hafod, llety â chymorth yn Ninbych, a gaiff ei redeg gan Gorwel, am chwe mis.


“Mae Gorwel wedi bod yn dda iawn ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi gyda phethau fel trefnu arian, coginio, gwella fy lles, a hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd.


“Pan gafodd Jade a finnau ein dewis ar gyfer tîm Cymru, fe wnaeth Gemma Donnellan Thomas sy’n gweithio i Gorwel deithio gyda ni i hyfforddi bob wythnos yng Nghasnewydd a Chaerdydd.


“Rwy’n gobeithio y bydd y twrnamaint yn taflu goleuni cadarnhaol ar ddigartrefedd a’r gefnogaeth sydd ar gael ledled y wlad. Fy nghyngor i unrhyw un sydd ar fin bod yn ddigartref yw i gael gafael ar yr holl gymorth y gallwch chi, gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud, a pheidio â rhoi’r gorau iddi.


“Rydw i wastad wedi mwynhau chwarae pêl-droed ac roeddwn i’n arfer chwarae dros dîm merched Rhyl a Phrestatyn fel amddiffynnwr. Mae’n wirioneddol gyffrous ein bod ni’n chwarae yng Nghwpan y Byd a’r nod, wrth gwrs, yw i ennill!”


Ychwanegodd Jade, a dreuliodd lawer o’i phlentyndod yn Colwyn Heights: “Dim ond tri mis yn ôl y dechreuais i chwarae pêl-droed, a rwan rydw i ar fin chwarae yng Nghwpan y Byd!


“Mae hynny i gyd oherwydd staff yr Hafod. Fe wnaethon nhw fy annog i fynychu’r treialon a chefais fy newis. Mae’n enghraifft arall ohonynt yn eich cefnogi yn fwy na dim ond darparu llety i ni.


“Rwy’n dal i gofio cyrraedd a’r croeso cyfeillgar a gefais. Ar y pryd roeddwn i’n isel ac yn ddig ac yn troi at ddiod ar ôl marwolaeth fy mam a’m nain o fewn dwy flynedd i’w gilydd. Mae Gorwel wedi bod yn anhygoel ac yn helpu pobl eraill fel fi.


“Oddi ar y cae, mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu gyda phethau fel coginio: dysgodd un ohonynt fi i wneud pasta, caws a ffa a dyma fy hoff bryd bwyd erbyn hyn!"


Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n dioddef cam-drin domestig a'r rhai sydd mewn risg o golli eu cartrefi, yn ogystal â gwaith i atal digartrefedd.