Jump to content

03 Awst 2016

Tai yn hanfodol i ddyfodol pobl ifanc a chymunedau Cymraeg

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, yn cynnal fforwm drafod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni heddiw (dydd Mercher 3 Awst) i ganolbwyntio ar wneud y cysylltiadau rhwng tai, pobl ifanc a chymunedau Cymraeg.

Bydd 'Tai ein Dyfodol: Cadw Lleisiau Ifanc yn y Gymuned' yn cynnwys ffigurau amlwg o feysydd y Gymraeg, pobl ifanc a thai yn cynnwys Sioned Hughes, Prif Weithredydd Urdd Gobaith Cymru; Ruth Richards, Prif Weithredydd Dyfodol i'r Iaith; David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy; Christian Webb, Youth Cymru; ac Osian Ellis, cynrychiolydd Ble Ti'n Mynd i Fyw. Cadeirydd y fforwm fydd Rhys Evans, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae tai yn ymwneud â chymaint mwy na rhoi to dros bennau pobl. Dyma'r glud sy'n cadw cymuned gyda'i gilydd. Er bod y cysylltiadau rhwng iechyd a thai, yr economi, addysg a threchu tlodi yn gyfarwydd iawn, mae cynnal a hybu cymunedau Cymraeg ledled Cymru hefyd yn elfen hanfodol ond llai hysbys o waith y sector. Nod fforwm drafod heddiw yw rhannu a llunio syniadau ar sut y gall tai helpu i gynnal cymunedau lleol ymhellach ar gyfer pobl ifanc, yn neilltuol lle mae gan y Gymraeg le canolog".

Meddai David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy: "Mae cadw pobl ifanc a datblygu tai newydd mewn cymunedau Cymraeg yn hollbwysig - nid yn unig i'r gymuned ei hun, ond i Gymru gyfan. Ni allwn fforddio caniatáu i'r cymunedau hyn wanhau mwy nag a wnaethant eisoes. Os gwnawn hynny, byddwn yn colli iaith, hanes, diwylliant a cymaint mwy. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon a gobeithiaf y bydd fy mhrofiadau o weithio gyda chymunedau yn Sir Fynwy, ac yn flaenorol ym Mhowys, yn helpu i ysgogi gweithredu mewn cymunedau eraill."

Mae'r fforwm drafod yn digwydd ar gyfnod amserol gyda chymdeithasau tai Cymru wrthi mewn trafodaethau ar Safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector a weithredir yn ddiweddarach eleni. Bydd CHC yn gofyn i ymwelwyr drwy gydol yr wythnos yn yr Eisteddfod am beth mae cymuned yn ei olygu iddynt a sut y gall tai cefnogi a chynnal cymunedau Cymraeg ymhellach.

.