Tai Newydd yn ennill gwobr bwysig am greadigrwydd
Cafodd prosiect Rooms4U ei enwi'n enillydd gwobr bwysig 'Creu Caredigrwydd - Pat Chown- yng Nghynhadledd Tai Fawr eleni.
Sefydlwyd y cynllun gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am Pat Chown, a ymrwymodd lawer o flynyddoedd o'i bywyd i'r sector, gan helpu pobl i wella eu bywydau a chyflawni eu potensial.
Cyflwynwyd nifer o geisiadau safon uchel ar gyfer y wobr, a fu'n rhedeg am 18 mlynedd. Roedd y ceisiadau'n dangos:
Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
Syniadau newydd am wella ac adfywio cymunedau.
Ffyrdd gwahanol i helpu pobl i wella a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.
Enillodd Newydd y wobr oherwydd bod eu cynnig yn dangos fod Rooms4U yn brosiect sy'n torri tir newydd a wnaeth wahaniaeth i fywydau pobl. Mae'r gymdeithas tai wedi derbyn cyfraniad o £1,000 y byddant yn ei roi i Fanc Bwyd y Fro yn y Barri.
Dywedodd y panel beirniaid: "Drwy edrych ar broblem y cap ar fudd-dal tai i bobl ifanc dan 35 oed o fis Ebrill 2019 a llunio ffordd strwythuredig ac eang ar gyfer gweithredu llety a rennir, teimlwn fod Rooms4U wedi gwneud - ac y gall barhau i wneud - gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl iau. Fe wnaeth y ffordd ystyriol a threfnus y sefydlwyd y prosiect i gynnwys nifer o feysydd cysylltiedig yn cynnwys proses baru gadarn, gweithdai cyn-tenantiaeth a chyflwyno cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth argraff fawr arnom.
"Maent hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid ac maent yn edrych yn benodol ar ymgysylltu gyda'r sector rhent preifat yn eu hardal. Mae'r cyfan uchod, ynghyd â'r ymgais barhaus am ddatblygiadau eraill, fel pecyn cymorth y gall eraill ei ddefnyddio, yn dangos agwedd greadigol i helpu lliniaru'r effaith negyddol fawr a gaiff y newidiadau arfaethedig ar fywydau pobl. Llongyfarchiadau mawr i Newydd am fod yn enillwyr haeddiannol iawn ond diolch hefyd i'r holl ymgeiswyr eraill am yr holl wahaniaethau cadarnhaol go iawn y maent yn eu gwneud ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weld mwy o geisiadau gwych y flwyddyn nesaf!"
Dywedodd Hazel Davies, Swyddog Prosiect Rooms4U Cymdeithas Tai Newydd, "Rwyf wrth fy modd fod Rooms4U wedi ennill Gwobr Pat Chown. Mae'n rhoi croen gwydd i chi pan mae tenant ifanc yn dweud wrthych ei fod yn arfer yfed bob dydd, yn isel ei ysbryd a hyd yn oed wedi meddwl am ladd ei hunan, ond ei fod yn awr yn teimlo'n wych gan fod ganddo gartref sefydlog gyda phobl o'r un anian lle mae'n gynnes, yn bwyta'n dda a hyd yn oed wedi dechrau chwilio am swydd. Mae Rooms4U, a gynhelir gan Gymdeithas Tai Newydd, yn dangos pa mor bwysig yw hi i gefnogi pobl ifanc drwy gyfnod anodd. Mae cynnig tai rhannu i bobl dan 35 oed yn rhoi sicrwydd amgylchedd diogel, gwella iechyd meddwl a pharodrwydd i ymgysylltu gyda gwasanaethau cefnogaeth lleol. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf gan ein bod hefyd yn anelu i weithio gyda'r sector rhent preifat. Hoffwn ddiolch i Crisis UK am gyllido Rooms4U, ein partneriaid prosiect a Chyngor Bro Morgannwg am eu cefnogaeth barhaus. Aiff y wobr o £1,000 at Fanc Bwyd y Fro yn y Barri i helpu pobl mewn anhawster ariannol."
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect gwobrwyol yma.