Jump to content

08 Ebrill 2019

Tai cymdeithasol yn gonglfaen bwysig i sicrhau safon byw gweddus i bawb

Tai cymdeithasol yn gonglfaen bwysig i sicrhau safon byw gweddus i bawb
Dechreuodd James Lundie weithio i Tai Taf pan sylweddolodd ei fod eisiau gyrfa lle gallai helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau


"Roeddwn wedi bod yn gweithio mewn banc am ychydig flynyddoedd pan sylweddolais nad oedd yn gweddu i fi a mod i eisiau gweithio mewn maes mwy cydnaws gyda fy ngwerthoedd. Fe wnes weithio yn y trydydd sector am ychydig flynyddoedd yn cefnogi rhaglen trethu tlodi Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Roeddwn yn mwynhau'r gwaith hwn a'i effaith gadarnhaol ar unigolion a chymunedau. Maes o law symudais i waith adfywio cymunedol mewn cymdeithas tai. Ymunais â Taf ym mis Mehefin 2018 ac ar hyn o bryd rwy'n Swyddog Buddsoddiad cymunedol yn cyflwyno prosiectau i denantiaid.


Y peth gorau am weithio yn y maes tai yw'r effaith enfawr y gallwch ei gael ar fywyd rhywun, dim ond drwy ddarparu cartref gweddus a diogel a chymorth. Mae Taf yn cyflwyno rhaglen 'adeiladu sylfeini ar gyfer dyfodol gwell' yn cynnwys hyfforddiant, cymorth cyflogi, gwirfoddoli a grwpiau cymunedol.


Ein harwyddair yw #niddimondtai, ac mae'n ddull gweithredu amlwg iawn ar bob lefel o'r sefydliad. Mae gweithio i sefydliad sy'n rhannu fy ngwerthoedd a blaenoriaethau yn bwysig i fi ac mae'n teimlo fel mod i'n cael argraff gadarnhaol yn y cymunedau lle rwy'n gweithio a byw.


Rwy'n byw mewn ardal lle mae tai cymdeithasol. Rwy'n rhan o'r un gymuned honno ac yn credu'n gadarn fod tai gymdeithasol yn gonglfaen bwysig wrth sicrhau safon byw gweddus i bawb."