Tai cymdeithasol yn flaenoriaeth yn nrafft Gyllideb Llywodraeth Cymru
Rydym yn falch fod y cyhoeddiad heddiw am ddrafft Gyllideb 2020/21 wedi gweld ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol.
Mae manylion allweddol y Gyllideb yn cynnwys:
- £223 miliwn wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol nesaf i gyrraedd y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, sy'n cynnwys cynnydd o £133 miliwn ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol.
- Cadarnhad y caiff y Grant Cymorth Tai ei warchod ar lefelau 2019/20, yn dilyn ein gwaith gyda Cymorth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru i ymgyrchu am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Gallwch ddarllen amdano yma.
- Bydd y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2020/21 yn £42m, cynnydd o £7m ar gyllideb y llynedd. Mae hyn yn darparu cyllid hanfodol ar gyfer prosiectau tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
- £51.8m o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu ar gyfer prosiectau adfywio yn y portffolio Tai a Llywodraeth Leol. Mae hyn yn gynnydd o £23.2m ar gyllideb y llynedd.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru yn gywir i roi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru ac mae cyhoeddiad heddiw o £133m ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol yn hwb enfawr i’n gwaith i adeiladu’r cartrefi gwirioneddol fforddiadwy y mae gan Gymru gymaint o’u hangen.”