Jump to content

17 Hydref 2013

Sylwadau CHC ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar effeithiau'r newidiadau i fudd-dal tai yng Nghymru

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar effeithiau'r newidiadau i fudd-dal tai yng Nghymru, dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Croesawn ganfyddiadau'r pwyllgor sy'n adleisio'r pryderon y gwnaethom eu codi pan oeddem yn rhoi tystiolaeth. Dangosodd asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun mai Cymru fyddai'n cael ei tharo galetaf gan y diwygiadau hyn. Mae'r argyfwng cyflenwad tai wedi cyfrannu'n sylweddol at y bil lles cynyddol a nes y byddwn yn gweld rhaglen hirdymor a fforddiadwy ar gyfer adeiladu tai, bydd hyn yn rhoi pwysau ar i waered ar renti i bawb, ni fydd hyn yn newid. Rydym wedi galw'n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gynyddu eu targed tai fforddiadwy o 7,500 i 10,000 ar gyfer y tymor hwn o'r Llywodraeth.

Gwyddom nad oes digon o gartrefi un a dwy ystafell wely yng Nghymru i bobl symud iddynt. Mae ffigurau diweddar yn awgrymu fod cymhareb y rhai y mae'r 'dreth ystafelloedd gwely' a'r nifer o gartrefi llai sydd ar gael yn 70:1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £20m eleni a £20m arall dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y diben yma.

Rydym yn y broses o gasglu data gan ein haelodau gan edrych ar effaith chwe mis cyntaf y 'dreth ystafelloedd gwely'. Mae 87 y cant o'r rhai a ymatebodd wedi gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion ers cyflwyno'r 'dreth ystafelloedd gwely', gyda 43% yn talu'n rhannol ond bron 20% heb dalu dim o gwbl at y diffyg. Byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau llawn ganol mis Tachwedd.

Mae'r canrannau hyn yn achosi pryder gan ystyried nad yw'r Credyd Cynhwysol wedi ei ymestyn ar draws Cymru hyd yma. Dan y Credyd Cynhwysol, bydd y tenantiaid yn derbyn eu budd-daliadau unwaith y mis a chaiff budd-dal tai ei dalu'n uniongyrchol iddynt. Mae hyn er bod astudiaethau'n dangos fod naw allan o ddeg tenant yn dymuno parhau i dalu eu budd-dal tai yn uniongyrchol i'w landlord."