Straeon tu ôl i’r ystadegau: Pam ein bod angen cynllun dewr i roi diwedd ar y defnydd o lety dros dro yng Nghymru
Shah Farahi, Cynghorydd Ymchwil a Pholisi, ac Alex Myles, Cynorthwyydd Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)
Mae pawb ohonom yn gwybod bod cartref yn sylfaen y caiff gweddill ein bywydau ei adeiladu arno. Dyma hefyd y llwyfan y mae pob blaenoriaeth genedlaethol arall yn dibynnu arno: addysg, iechyd, yr economi a swyddi. Cartrefi da a fforddiadwy yw’r seilwaith atal yng Nghymru.
Mae gwybod fod dros 2,500 o blant yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, yn wirioneddol arswydus. Mae hyn yn golygu fod miloedd o fywydau ifanc yng Nghymru yn y fantol, yn ansicr am i ble a phryd y gallai fod yn rhaid iddynt symud eto. O’r 2,500 yma o blant, mae cannoedd yn deffro mewn llety gwely a brecwast, heb unrhyw ystafell wely eu hunain.
Dengys dadansoddiad a gyhoeddwyd gan CHC heddiw fod, yn andwyol, fod plant yn profi llety dros dro ar gyfradd uwch nag oedolion yng Nghymru.
Mae datganiad ystadegol diweddaraf ar gyfer mis Hydref y llynedd yn dangos fod un ym mhob 216 o blant yn byw mewn llety dros dro o gymharu ag un ym mhob 360 o oedolion.
Er y bu gostyngiad graddol yn nifer y bobl yn byw mewn llety dros dro o’i frig ym mis Awst 2023, mae’r nifer o bobl – yn cynnwys plant dibynnol dan 16 oed – sy’n byw mewn llety dros dro yn parhau yn ystyfnig o uchel.
Mae gan ein hadroddiad dri chanfyddiad arall:
Nid ydym yn gwneud cynnydd yn ddigon cyflym: Bu gostyngiad o 4% yn nifer yr unigolion mewn llety dros dro ym mis Hydref 2025 o gymharu â mis Hydref 2024; fodd bynnag mae’r gostyngiadau misol cyfartalog yn araf, gyda chyfartaledd o 0.38% dros ddeg mis cyntaf 2025.
Mae gormod o bobl yn dal i gyrraedd argyfwng tai: Mae cyfradd sylweddol o bobl newydd yn parhau i fynd i lety dros dro ar– ar gyfartaledd, roedd bron 12% o gyfanswm nifer yr unigolion mewn llety dros dro yn newydd ddyfodiaid dros y 22 mis diwethaf.
Rydym yn parhau i weld cylchoedd o ddigartrefedd yn cael eu hailadrodd: Roedd 15% o bobl a aeth i lety dros dro ym mis Hydref 2025 eisoes wedi bod mewn llety dros dro o fewn y 12 mis diwethaf.
Mae pob rhif yn cynrychioli bywyd sy’n cael ei fyw yn nhir neb, ac mae cost ddynol hyn yn llawer rhy uchel.
Mae stori ddynol fel y fam sengl Billie a’i merch ifanc tu ôl i bob ystadegyn.
Stori Billie
Roedd Billie yn wynebu digartrefedd pan chwalodd ei perthynas. Heb unrhyw ddewis i aros yng nghartref y teulu a ffrindiau yn methu ei chefnogi, cafodd hi a’i merch eu rhoi mewn llety argyfwng.
Bu Billie yn byw mewn llety gwely a brecwast gyda’i merch ifanc am chwe mis. Fe wnaeth ddal ati i weithio yn rhan-amser a gofalu am ei merch – yn benderfynol i gynnal sefydlogrwydd ar gyfer ei theulu.
Fodd bynnag, fe wnaeth y profiad hwn darfu’n sylweddol ar fywyd merch Billie yn neilltuol, gan effeithio ar ei chwsg a’i threfn ysgol.
Gyda chefnogaeth swyddog atal digartrefedd yng Nghyngor Conwy, dechreuodd pennod newydd o gymorth gyda chynnig cartref parhaol gan Cartrefi Conwy, cymdeithas tai sy’n gweithredu yn yr ardal.
Mae Billie a’i merch bellach yn byw mewn cartref diogel ac addas a ddarperir gan Cartrefi Conwy.
“Mae symud i gartref parhaol wedi newid popeth,” meddai Billie. “Mae gan fy merch ei gofod ei hun, mae’n cysgu’n well a gallwn o’r diwedd setlo i drefn bob dydd.
“Mae gen i bellach ddyfodol y gallaf edrych ymlaen ato, yn ein cartref ein hun lle’r ydym yn teimlo’n ddiogel.”
Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad mis Mai, mae CHC yn gofyn i bob plaid wleidyddol i wneud plant yn byw mewn llety dros dro, yn arbennig mewn llety gwely a brecwast, yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.
Rydym angen cynllun dewr a chyraeddadwy i roi diwedd ar argyfwng tai Cymru, cynllun sydd wedi ei seilio ar ddealltwriaeth glir o anghenion tai a chymorth fydd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r nifer o bobl sy’n mynd i lety dros dro, yn cynnwys fwy nag unwaith, ac yn gwella cyfradd lleoliadau mewn llety hirdymor addas.
Mae llif aelwydydd i lety hirdymor yn parhau i gyfyngu pa mor gyflym y gellir gostwng llety dros dro. Drwy adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy, gallwn newid bywydau.
Yn ogystal â tharged uchelgeisiol i gyflenwi 60,000 o gartrefi fforddiadwy dros 10 mlynedd, gan hwyluso symud ymlaen yn gyflymach o lety dros dro, mae hefyd angen rhaglen o fuddsoddiad ystyrlon i gadw pobl yn eu cartrefi a mynd i’r afael â digartrefedd.
Nid yw’n ddigon gwneud yr hyn a wnaethom bob amser.
Mae ein maniffesto yn alwad i weithredu: rydym angen i Lywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi mewn mwy o gartrefi, cartrefi gwell a lleoedd iachach a tecach i roi diwedd ar yr argyfwng tai.