Jump to content

26 Tachwedd 2018

Siop goffi yn ail-gynnau uchelgais menyw yng Nghasnewydd

Siop goffi yn ail-gynnau uchelgais menyw yng Nghasnewydd
Mae Grŵp Pobl wedi agor siop goffi yng Nghasnewydd i gefnogi cymuned ddigartref y ddinas. Mae One Twelve Coffee yn cynnig cyfleoedd gwaith ac amgylchedd i ddysgu sgiliau newydd i'r rhai y mae digartrefedd wedi effeithio arnynt.


Mae Meghan, un o'r hyfforddieon cyntaf drwy'r drws, eisoes yn cael budd o'i hyfforddiant.


Dywedodd: "Ar ôl fy nghyfweliad gwreiddiol gyda rheolwr y siop goffi, roeddwn yn gyffro i gyd ar y ffordd adre! Roedd y staff mor hyfryd ac yn gwneud i mi deimlo'n wirioneddol normal - roeddwn yn teimlo eu bod yn edrych arnaf am fy rhinweddau ac yn medru gweld heibio fy anabledd. Rwy'n gyffrous iawn am gychwyn gwaith; bydd yn wych cael trefn yn fy mywyd eto a bydd yn hwb mawr i fy hyder."


Dywedodd Nick Taylor, Cyfarwyddydd Gweithredol Gofal a Chymorth Grŵp Pobl: "Rydym yn gweithio'n ddiflino i gyflawni ein huchelgais i greu cyfleoedd a newid bywydau cynifer o bobl sy'n profi diweithdra ledled Casnewydd ag y gallwn."


[gallery columns="2" size="medium" ids="http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/pobl-coffee.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2018/11/pobl-coffee-4.jpg|"]


Yn ogystal â dysgu sgiliau gwneud coffi, caiff yr hyfforddeion eu hannog i gysylltu gyda chwsmeriaid mewn amgylchedd gwaith go iawn, cefnogol.


Mae cefnogi pobl i ennill sgiliau ymarferol a chymdeithasol yn hanfodol er mwyn iddynt cael cyflogaeth yn y dyfodol ac ar eu taith i annibyniaeth.


Dyna pam ein bod wedi gwneud ffyniant yn flaenoriaeth yng ngweledigaeth y sector, sydd ar gael yma.