Jump to content

25 Chwefror 2015

Sector tai yn rhoi sylw i fyddin o aelodau bwrdd yn gwneud gwahaniaeth ym musnesau mwyaf blaengar Cymru

Mae aelodau bwrdd cymdeithasau tai yn gyfrifol am redeg a gosod cyfeiriad strategol busnesau miliynau o bunnau y sector.

Mae'r busnesau hyn yn darparu cartrefi a gwasanaethau cysylltiedig â thai i ddeg y cant o boblogaeth Cymru. Yn 2014 fe wnaethant rhyngddynt wario £1bn yn yr economi, gyda 80 o'r cant o'r gwariant hwnnw'n cael ei gadw yng Nghymru, a chyflogi 8,400 o bobl ar sail lawn-amser.

Mae dros 550 o bobl ar fyrddau cymdeithasau tai ar hyn o bryd. Mae CHC, corff cynrychioli cymdeithasau tai Cymru, heddiw wedi lansio ymgyrch 'Dewch ar y Bwrdd' i ddenu hyd yn oed fwy o bobl gyda'r sgiliau a'r profiad cywir i lywio eu sefydliadau drwy'r amserau heriol i ddod. Mae byrddau cytbwys ac amrywiol yn sylfeini llywodraethiant da a chaiff yr ymgyrch ei lansio ar y cyd gyda Tai Pawb, sefydliad sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn tai yng Nghymru, a Chwarae Teg, y brif asiantaeth broffesiynol ar gyfer datblygiad economaidd menywod yng Nghymru.

Caiff ymgyrch 'Dewch ar y Bwrdd' ei lansio ar yr un pryd â chyflwyno Cod Llywodraethiant CHC. Mae'r Cod, a gynhyrchwyd mewn ymgynghoriad gydag aelodau, yn gosod safonau ac arferion y mae'n rhaid i fyrddau a'u haelodau gydymffurfio â nhw. Fe’i cynlluniwyd i helpu cymdeithasau tai i ddatblygu strwythurau llywodraethiant da a chefnogi gwelliant parhaus mewn gwasanaethau i denantiaid.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae'r Cod Llywodraethiant a'r ymgyrch 'Dewch ar y Bwrdd' yn ddwy elfen hollbwysig wrth helpu i gyflawni ein huchelgais o gydnabod cymdeithasau tai fel y sefydliadau a gaiff eu llywodraethu orau yng Nghymru."

Mae aelodaeth o fyrddau cymdeithasau tai ar gael i bobl o bob cefndir, oedran, gallu, profiad a galwedigaeth, ac mae'r Cod a hefyd yr ymgyrch Dewch ar y Bwrdd yn tanlinellu fod amrywiaeth yn hanfodol ymysg aelodau bwrdd.

Daeth Jemma Bere o Aberhonddu yn Denant Aelod Bwrdd i Tai Wales & West y llynedd. Dywedodd Jemma, sy'n 31 oed ac sy'n warcheidwad ac yn byw gyda'i brawd a'i chwaer sydd ill dau yn eu harddegau, "Fe wnes fy mhenderfyniad i ddod yn aelod i raddau helaeth oherwydd fy mhrofiad personol fy hun gyda thai cymdeithasol a'r cymorth hollbwysig a roddodd i fi a fy nheulu yn 2008.

"Roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r sector, felly gwelwn fod yn aelod bwrdd yn gyfle delfrydol i wneud hyn. Mae wedi rhoi gwybodaeth wirioneddol werthfawr i mi ar sut mae'r sefydliad yn gweithio ar ran tenantiaid."

Dywedodd Nick Hoskins, gŵr busnes wedi ymddeol sy'n Aelod ac yn gyn Gadeirydd Bwrdd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru: "Rwy'n rhan o grŵp o wirfoddolwyr sydd yr un mor benderfynol â fi ac sydd gennym gyda'n gilydd y gallu i sicrhau newid ac wrth ein bodd bod ein gwaith ar y cyd yn helpu i wella bywydau."

Claire Russell Griffiths oedd y denant a'r ddynes gyntaf i gael ei hethol yn gadeirydd bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG). Mae Claire yn briod ac yn fam i dri o blant. Cafodd ei magu ym Mhen Llŷn a bu'n denant ym Mynytho am saith mlynedd cyn ymuno â'r bwrdd ym mis Hydref 2014. Dywedodd: "Roeddwn wrth fy modd ac yn ei hystyried yn anrhydedd i gael fy ethol yn Gadeirydd CCG. Mae gan y gymdeithas gartrefi ledled Gwynedd ac mae'n darparu cartrefi fforddiadwy a safon uchel i'r rhai sydd angen cartref - rhywbeth rwy'n falch iawn ohono.

"Graddiais yn y gyfraith fel myfyrwraig aeddfed ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar ac rwy'n astudio i ddod yn weithwraig gymdeithasol. Rwyf hefyd yn aelod o Banel Cynghori Tenantiaid Cymru a'r Grŵp Cynghori Rheoleiddio Tai. Rwy'n cael profiad a hyfforddiant gwerthfawr fel aelod o fwrdd CCG. Fel tenant ar y bwrdd, mae'n bwysig y caiff lleisiau tenantiaid eu clywed o fewn CCG a fy ngobaith yw y gallwn ddenu mwy o denantiaid i gymryd rhan a chysylltu gyda ni.

"Fel llawer o gymdeithasau eraill yng Nghymru, mae llawer o heriau yn y dyfodol yn cynnwys diwygio lles. Mae CCG yn dechrau ar gyfnod newydd cyffrous wrth i ni gyrraedd diwedd ein rhaglen £136m i wella cartrefi. Mae prosiectau allweddol yn cynnwys adeiladu cartrefi newydd a datblygu gwasanaethau."

Arferai Julia Hughes o Langwyfan ger Dinbych fod yn gyfarwyddydd addysg oedolion a chymunedol yng Ngholeg Llandrillo. Ar ôl ymddeol yn gynnar, daeth yn aelod o fwrdd newydd Grŵp Cynefin fis Medi y llynedd.

Dywedodd Julia: "Cefais groeso cynnes iawn gan aelodau eraill y bwrdd, y tîm arweinyddiaeth a staff y gymdeithas. Roedd y rhaglen gynefino gynhwysfawr a gafodd pob aelod o'r bwrdd newydd, yn cynnwys teithiau o amgylch swyddfeydd, tai a phrosiectau yn ogystal â chwrdd â mwyafrif y staff,yn ogystal â'r cyflwyniadau a'r wybodaeth gefndir, yn gyflwyniad ardderchog i sector oedd yn newydd i mi ac roedd yn ddelfrydol wrth i mi baratoi ar gyfer fy rôl newydd fel aelod wedi ei chyfethol ar y bwrdd. Rhoddodd hyn hyder i mi y bydd fy sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad yn werthfawr i'r sector tai cymdeithasol ac y gallaf wneud cyfraniad da a gobeithio helpu i wneud gwahaniaeth go iawn."

Gan annog eraill i ddod yn aelodau bwrdd, ychwanegodd Stuart Ropke o CHC: "Rydym bob amser yn dymuno ychwanegu at ein cronfa ddata bresennol o aelodau bwrdd. Os hoffech wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau Cymru a dylanwadu ar waith cymdiethasau tai, yna mae 'Dewch ar y Bwrdd' ar eich cyfer chi."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Rwy'n croesawu lansiad ymgyrch Dewch ar y Bwrdd a Chod Llywodraethiant CHC. Mae'n hanfodol cadw'r safonau uchaf posibl mewn llywodraethiant i sicrhau fod y sector yn parhau'n gryf ac y gall roi'r gwasanaeth gorau oll i denantiaid.

"Mae cael y bobl gywir ar fyrddau cymdeithasau tai yn cynnwys tenantiaid eu hunain, sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau ac sydd â'r sgiliau a'r profiad cywir, yn elfen bwysig o lywodraethiant da. Mae'r dystiolaeth sy'n dangos fod byrddau cymdeithasau tai yn dod yn fwy amrywiol ac yn cynnwys pobl o bob cefndir yn galonogol. Gobeithiaf weld y tueddiad cadarnhaol yma'n parhau."