Jump to content

06 Tachwedd 2013

Sector tai yn gosod y sylfeini ar gyfer economi fwy iach yng Nghymru

Er y cyfnod o gynildeb ariannol, dengys ymchwil annibynnol fod cymdeithasau tai Cymru yn mynd yn groes i'r tueddiad economaidd ac yn hybu economi Cymru gan gannoedd o filiynau o bunnau.

Datgelir y canfyddiadau hyn fel rhan o adroddiad diweddaraf yr Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) sy'n canolbwyntio ar effaith economaidd ehangach y sector yn economi Cymru. Ar adeg pan fo buddsoddiad preifat yn brin a'r pwrs cyhoeddus dan bwysau cynyddol, mae'n dangos fod gan adfywio dan arweiniad tai a chyfleoedd adeiladu a chyflogaeth a gyflwynir gan gymdeithasau tai rôl allweddol wrth gyfrannu at economi Cymru.

Mae'r adroddiad, a gomisiynwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, yn dangos fod gwariant cyfunol cymdeithasau tai Cymru yn 2012/13 yn £1034m, cynnydd o 8.7 y cant o'r flwyddyn flaenorol.

Cadwyd 81 y cant o'r gwariant hwn yng Nghymru, gan gadw'r bunt Gymreig yn lleol a helpu i hybu economi Cymru gan £840m.

Gwariwyd bron 30 y cant o'r cyfanswm gwariant yn 2012/13 ar gynnal a chadw, atgyweirio ac uwchraddio anheddau i ddod â chartrefi i fyny i Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gwariwyd £227.5m arall, bron chwarter, ar adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd.

Dangosodd adroddiad WERU hefyd y gwariwyd amcangyfrif o £509m ar adfywio cymunedau, na fyddai fel arfer efallai wedi derbyn buddsoddiad.

Dengys ffigurau WERU y darparwyd 1,862 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2012/13, 41 y cant ohonynt heb unrhyw grant tai cymdeithasol. Gosododd Llywodraeth Cymru darged o 7,500 ar gyfer y tymor hwn o lywodraeth yn 2011. Mae'r ffigurau hyn yn golygu fod cymdeithasau tai Cymru wedi cyflawni mwy na 50 y cant o darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru mewn 40 y cant o’r amser a ddynodwyd.

Yn ôl adroddiad WERU, mae cyfraniad y sector at gyflogaeth hefyd wedi cynyddu. Ar hyn o bryd caiff 8,000 o bobl eu cyflogi'n uniongyrchol gan gymdeithasau tai Cymru ac am bob swydd uniongyrchol a ddarperir, caiff bron ddwy swydd arall eu cefnogi yn economi Cymru. Gwelodd y sector gynnydd o 142 y cant yn nifer y swyddi uniongyrchol a ddarparwyd dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae'r adroddiad yma'n dangos ymhellach wir effaith cymdeithasau tai ar economi Cymru a bod ein sector yn ymwneud â llawer mwy na brics a morter - mae hefyd yn gweithredu fel ysgogiad economaidd.

"Nid oes amheuaeth fod buddsoddiad parhaus o'n sector yn helpu i greu sylfeini cadarn ar gyfer economi mwy iach yng Nghymru.

"Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi pwmpio cannoedd o filiynnau o bunnau i economi Cymru ac rydym bob amser yn arloesi gyda syniadau i barhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol er mwyn bod â rhan ganolog yn economi Cymru ac, yn y pen draw, y cymunedau lleol a wasanaethwn."