Jump to content

24 Mai 2016

Sector Tai Yn Dangos Cydnerthedd a Sefydlogrwydd Ariannol

Mae'r adroddiad diweddaraf ar ddatganiadau ariannol cymdeithasau tai Cymru yn dangos tueddiad parhaus o gydnerthedd gan y sector.
Er bod diwydiannau mawr eraill wedi crebachu, mae'r adroddiad ar ddatganiadau ariannol 2015 y sector yn dangos fod y sector tai yng Nghymru yn parhau'n sector cryf, diogel a blaengar i fuddsoddi ynddo gyda throsiant o £835m - cynnydd o £51m ar ffigurau 2014.

Gwelodd y sector twf pellach gyda gwarged o £76m yn 2015 (£74m yn 2014) ac mae'n parhau i fod yn ddeniadol i fenthycwyr a sefydliadau ariannol.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru: "Unwaith eto mae adroddiad 2015 yn dangos cryfder, cydnerthedd ac agwedd fasnachol y sector wrth gyflawni amcanion cymdeithasol. Mae cael mynediad i gartref diogel, cynnes a fforddiadwy yn sylfaen ar gyfer lles cymunedau ledled Cymru ac rydym angen sector cryf i gyflawni hyn.
“Mae'r rheidrwydd i'r sector barhau i greu gwargedion flwyddyn-ar-flwyddyn hyd yn oed yn amlycach ar adeg o bwysau na welwyd ei debyg ar y cyflenwad tai. Mae gwargedion cyfrifeg yn cefnogi benthyca ychwanegol y mae ein haelodau yn ei ail-fuddsoddi mewn cartrefi newydd hanfodol a gwasanaethau. Mae ein sector, blwyddyn ar ôl blwyddyn, yn parhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy a dengys yr adroddiad fod cymdeithasau tai Cymru ar y trywydd i gyrraedd y targed o 10,000 o gartrefi ychwanegol a osodwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad.”

Darparodd y sector 89% o'r cyfanswm o dai fforddiadwy ychwanegol a godwyd yng Nghymru yn 2014/15, sef mwy na 1,900 o gartrefi newydd. Cafodd 517 o'r cartrefi hyn eu codi heb Grant Tai Cymdeithasol, gan brofi fod y sector yn denu llwybrau amgen o gyllid fforddiadwy.

Mae gan y sector gyfanswm cyfalaf a chronfeydd cadw o £850m, cynnydd o 5% ar 2014. Mae gerio'r sector yn awr yn 63%, cynnydd o 61% yn 2014, gan ddangos ymrwymiad cymdeithasau tai Cymru i gymryd benthyca ychwanegol i helpu adeiladu cartrefi newydd hanfodol ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau fod gan y sector enw da ymysg cymheiriaid diwydiant, yn cynnwys CBI Cymru, a roddodd eu cefnogaeth i ymgyrch Cartrefi i Gymru bod buddsoddi mewn tai yn gwneud synnwyr busnes i Gymru.

Ychwanegodd Stuart Ropke: "Gyda'n gilydd, mae'r sector yn rym o bwys - rydym yn mynd i'r afael ag anghenion tai ledled Cymru, yn ogystal â gwella cymunedau a darparu gwasanaethau gwerthfawr. Er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn, mae'n hanfodol fod y sector yn ariannol gadarn. Er bod cyfnod heriol ar y gorwel, mae'r adroddiad yn profi bod y sector yn gydnerth ac y bydd yn parhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig ledled Cymru."

I weld yr adroddiad Cyfrifon Cynhwysfawr llawn cliciwch yma: http://chcymru.org.uk/en/publications/global-accounts/