Jump to content

21 Ionawr 2014

Rhwydwaith yn Darparu Tai Fforddiadwy yng Nghefn Gwlad Cymru

Mae rhwydwaith a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn nifer o gymunedau gwledig, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Wrth werthuso effeithiolrwydd Hwyluswyr Tai Gwledig (HTG), mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad eu bod wedi helpu i ddarparu 186 o dai fforddiadwy ers 2004, gyda 240 arall ar y gweill.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod awdurdodau, cymdeithasau tai a chymunedau yn gwerthfawrogi HTG, a’u bod yn ymgysylltu â’r gymuned mewn ffordd sy’n hanfodol ar gyfer darparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio: ”Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu tai fforddiadwy yng Nghymru gyfan ac yn deall y gwahaniaeth y gall dim ond llond llaw o dai ei wneud i gymunedau a busnesau gwledig.

“Es i Dryleg y mis diwethaf a gwelais fy hun sut mae’r Hwyluswyr yn chwarae eu rhan o dan adnabod a hwyluso’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.

“Mae’r chwe eiddo cynaliadwy sydd wedi’u codi yn Nhryleg yn enghraifft dda o’r hyn sy’n bosibl pan fydd Hwyluswyr Tai Gwledig yn gweithio gyda chymunedau gwledig i adnabod a mynd i’r afael ag anghenion tai ac rwy’n edrych ymlaen at weld enghreifftiau gwych eraill yn y dyfodol.”