Jump to content

06 Mai 2016

Rhaid i dai fod ar frig agenda Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru

Mae'r sector tai yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru newydd i gydnabod yr effaith hollbwysig a gaiff tai ar iechyd, addysg a'r economi i Gymru drwy ymrwymo i gynllun uchelgeisiol ar gyfer tai yn ei Rhaglen Lywodraethu newydd.

Yn dilyn etholiadau ddoe i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Llafur wedi sicrhau 29 sedd i barhau'r sedd fwyaf yn y Cynulliad. Enillodd UKIP ei seddi cyntaf yn y Cynulliad, gan ennill 7 sedd ranbarthol. Cadwodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei sedd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed gyda mwyafrif sylweddol. Enillodd Plaid Cymru 12 sedd, yn cynnwys yr arweinydd Leanne Wood a drechodd Leighton Andrews y cyn Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei hetholaeth gartref o'r Rhondda. Enillodd Ceidwadwyr Cymru 11 sedd gyda'r arweinydd Andrew RT Davies wedi'i ailethol ar restr Canol De Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru: "Mae tai yn allweddol i economi sy'n ffynnu, gwell iechyd a chyrhaeddiad addysgol ar gyfer ein plant. Mae'n hollbwysig fod y llywodraeth newydd yn cydnabod hyn ac yn cyflawni ar y targedau tai uchelgeisiol a welsom ym maniffestos y pleidiau.

"Roedd yr holl bleidiau a etholwyd i'r Cynulliad heddiw yn cefnogi ymgyrch Cartrefi i Gymru ac wedi ymrwymo i ddod â'r argyfwng tai yng Nghymru i ben. Mae'n rhaid iddynt yn awr gyflawni ar yr addewid yma gyda chynllun uchelgeisiol ar gyfer tai yn y Rhaglen Lywodraethu nesaf.

"Mae CHC a'n haelodau'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i ddarparu mwy o gartrefi i Gymru. Fel sector, fe wnaethom ragori ar y targed tai fforddiadwy o 10,000 yn nhymor diwethaf y Cynulliad. I sicrhau y gallwn barhau i adeiladu mwy o gartrefi, mae'n rhaid i'r Llywodraeth newydd ailddatgan ei hymrwymiad i'r sector gyda buddsoddiad parhaus a chyflwyno deddfwriaeth arfaethedig i ddod â'r Hawl i Brynu i ben yn y Cynulliad newydd."