Jump to content

26 Medi 2017

Pwysigrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf mewn cyflawni gweledigaeth gadarn hirdymor

Pwysigrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf mewn cyflawni gweledigaeth gadarn hirdymor
Yn y cyntaf o'n cyfres blogiau Gorwelion Tai mae Helen White, Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn esbonio pwysigrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf mewn cyflawni gweledigaeth gadarn hirdymor.



Mae meddwl am y dyfodol bob amser yn her. Prin rwyf yn gwybod beth fyddaf yn ei wneud i swper, heb sôn beth fyddaf yn ei wneud yr adeg hon y flwyddyn nesaf!


Nid oes dim dau amdani. Ni all eglurdeb am gyfeiriad trefniadol y dyfodol wedi'i seilio ar gynlluniau busnes cadarn a brofwyd yn llawn o ran straen fod yn rhywbeth 'braf ei gael'. Mae gan fynd i'r afael â hyn ran sylfaenol yn llwyddiant sefydliad yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'n swnio'n ddigon rhwydd ond mewn gwirionedd mae'n her go iawn.


I gael hyn yn iawn, mae angen i Gymdeithasau Tai weithio'n agosach nac erioed gyda thenantiaid a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu datrysiadau 'dan arweiniad y cwsmer'. Os edrychwn ar y sector preifat, gwelwn sefydliadau'n addasu eu cynnig yn barhaus i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Mae Amazon yn enghraifft wych o hyn ac mae ganddynt rai o'r cyfraddau bodlonrwydd cwsmeriaid uchaf ym Mhrydain.


Rwy'n derbyn y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am y risgiau a achosir gan arallgyfeirio. Ond rwyf hefyd yn gweld cyfleoedd i arallgyfeirio a gwella canlyniadau o fewn cymunedau. Mae gan y sefydliadau gorau strategaethau cadarn am dwf ac arallgyfeirio yn y dyfodol, a gefnogir gan fframweithiau sicrwydd a dealltwriaeth drwyadl o archwaeth a goddefiant.


Mae'r fframwaith rheoleiddiol yn anelu i sicrhau fod y sector yn gadarn a chydnerth. Mae gallu'r sector i ddenu cyllid buddsoddi i ateb galw cynyddol am dai fforddiadwy yn elfen allweddol os ydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ni allaf orbwysleisio pa mor hanfodol yw gosod sylfeini cryf os yw'r sector yn mynd i ateb yr heriau o'n blaen yn llwyddiannus a bod yn fuddsoddiad credadwy i fenthycwyr.


Mae angen i Gymdeithasau Tai fuddsoddi amser ac adnoddau i alluogi'r Bwrdd a'r tîm Gweithrediaeth i edrych i'r dyfodol. Byddwn yn gofyn i holl aelodau'r Bwrdd feddwl faint o amser a dreuliant mewn cyfarfodydd yn trafod perfformiad cyfredol a pherfformiad y gorffennol yn hytrach nag ystyried beth sydd angen ei wneud mewn pump, deg a hyd yn oed ugain mlynedd o nawr. A drwy 'dyfodol' nid wyf yn golygu cytuno ar leoliad ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y flwyddyn nesaf!


Wrth gwrs, mae angen myfyrio ar, ac yn bwysicach, ddysgu o'r gorffennol. Fodd bynnag mae angen i ni dreulio mwy o amser yn edrych a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Fel y dywedodd Gandhi; "mae'r dyfodol yn dibynnu ar yr hyn a wnawn yn y presennol".