Jump to content

15 Mai 2025

Pwyllgor y Senedd yn lansio adroddiad ymchwiliad ar gymorth tai ar gyfer pobl fregus

Croesawn adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a gyhoeddwyd heddiw ar Cymorth tai ar gyfer pobl fregus. Mae hyn yn ganlyniad ymchwiliad a gynhaliwyd yn gynharach eleni, lle rhoddodd CHC dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion pwysig, sy’n adlewyrchu’r heriau y soniodd ein haelodau wrthym amdanynt yn ymwneud â sicrwydd cyllid, diffyg data cenedlaethol cadarn, gweithio partneriaeth ar lefel leol a chadw gweithlu.

Wrth siarad am lansiad yr adroddiad dywedodd Rhea Stevens, cyfarwyddwr polisi a materion allanol CHC:

“Bu’r ymchwiliad hwn yn ganolog wrth ddangos y pwysau enfawr sydd ar wasanaethau cymorth tai. Bu’r sector yn ddiamwys am y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer gwell data ar anghenion tai er mwyn cywirdeb wrth sefydlu’r lefel sylfaenol newydd o gyllid sydd ei angen ac i gynorthwyo gyda chyflwyno cynlluniau trosiant Ailgartrefu Cyflym.

Rydym yn falch i weld bod adroddiad y Pwyllgor yn adlewyrchu’r farn hon, yn ogystal â chymorth dros barhau â chyllid wedi’i neilltuo ar gyfer y Grant Cymorth Tai ac ymroddiad cyllido amlflwyddyn a fyddai’n rhoi’r sefydlogrwydd a’r hyder mae gwasanaethau eu hangen i ddiwallu anghenion. Mae’n rhaid i ni yn awr roi blaenoriaeth i fuddsoddiad yn y gweithlu a gwasanaethau cymorth tai, yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai er mwyn cyflawni yr uchelgais a rannwn i wneud yn siŵr fod digartrefedd yn beth prin a byr ac na chaiff ei ailadrodd.

Credwn y bydd y Bil disgwyliedig ar Ddigartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol yn gyfle i wella cydweithio a mynd i’r afael â phroblemau systemig mewn cyllid a darpariaeth gwasanaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor ymhellach drwy eu craffu deddfwriaethol.”