Jump to content

26 Mehefin 2020

Pwyll piau hi ar gyfer tai

Pwyll piau hi ar gyfer tai
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi Cynnig Tryloywder Diogelwch i gefnogi cymdeithasau tai i sicrhau a chynnal dull gweithredu tryloyw ar gyfer materion iechyd a diogelwch gyda’u preswylwyr. Mae Gareth Davies, Rheolwr Iechyd a Diogelwch Tai Wales & West, yn siarad am yr hyn y bydd y cynnig yn ei olygu iddynt a sut y daethant i gymryd rhan yn ei ddatblygiad.


“Mae Tai Wales & West (WWH) yn berchen mwy na 12,000 o gartrefi fforddiadwy, ansawdd uchel mewn 15 ardal awdurdod lleol ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys mwy na 3,000 o anheddau arbennig ar gyfer pobl hŷn yn ogystal â datrysiadau tai â chymorth arloesol ar gyfer pobl gydag ystod o anghenion neilltuol. Ein gweledigaeth yw sicrhau twf cryf, cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u cartrefi a chymunedau.


Mae darparu a chynnal amgylchedd diogel ac iach ar gyfer ein preswylwyr yn elfen allweddol o’r weledigaeth honno. Roeddwn felly yn hynod falch i gael fy ngwahodd ynghyd ag ychydig o gymdeithasau tai eraill a Clare Severn, pennaeth Rhaglen Diogelwch Adeiladu Llywodraeth Cymru i gynrychioli WWH mewn gweithgor CHC i greu Cynnig Tryloywder Diogelwch ar gyfer y sector.


Roedd yn glir o ddechrau’r prosiect fod y nodau ac amcanion ar draws y sector yn debyg – darparu amgylchedd diogel ac iach lle gall eu preswylwyr ffynnu. Mae wrth gwrs rai gwahaniaethau yn y dulliau gweithredu i gyflawni hyn, ac iawn felly. Nid oeddem eisiau i’r cynnig gwirfoddol yma fod yn rhy gaeth, ond yn hytrach i greu fframwaith ar gyfer pob landlord i gyflawni a chynnal safonau gofynnol ar gyfer iechyd a diogelwch. Doedden ni ddim eisiau i’r cynnig fod mor gaeth fel ei bod yn mynnu sut oedd yn rhaid i hynny ddigwydd. Credwn fod y cynnig yn galluogi pob landlord cymdeithasol cofrestredig i deilwra eu dull gweithredu penodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain a’u preswylwyr.


Roedd ymgysylltu gyda phreswylwyr yn bwynt trafod allweddol drwy gydol y broses. Mae gwersi o’r trychineb arswydus yn Nhŵr Grenfell yn dangos pa mor bwysig yw hi y gellir clywed pryderon preswylwyr, a bod landlordiaid yn barod ac ymroddedig i ddatrys problemau yn gyflym. Teimlwn fod y cynnig yn ein galluogi i fod yn ymatebol i ddelio gyda phryderon cysylltiedig â diogelwch gan breswylwyr ond ar yr un pryd ymrymuso preswylwyr i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed hefyd.


Roedd diffinio'r hyn y dylai’r Cynnig Tryloywder Diogelwch ei gynnwys yn rhan allweddol o’n trafodaethau. Mae gan faes iechyd a diogelwch lawer o ymylon ‘llwyd’ a gall gynnwys llesiant, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion diogelwch yn ogystal ­â meysydd risg diogelwch landlordiaid a gaiff eu cydnabod fel arfer tebyg i dân, nwy, asbestos, diogelwch trydanol ac yn y blaen. Credwn ein bod wedi diffinio’r diben yn ddigonol i ganolbwyntio ar faterion allweddol iechyd a diogelwch landlordiaid heb fod yn rhy gaeth, ac ar yr un pryd ei gwneud yn glir na chaiff materion megis diogelwch eu cynnwys o fewn y cwmpas.


Credwn fod y fframwaith yn galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i benderfynu ar y ffordd fwyaf addas i weithredu’r cynnig ar gyfer eu stoc a’u preswylwyr eu hunain. Yn WWH rydym wedi cymharu’r Cynnig gyda’r trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ac yn teimlo mai dim ond newidiadau cymharol fân i’n gweithrediadau presennol sydd eu hangen - gyda’r rhain yn bennaf am fath ac amseroldeb cyfathrebu gyda phreswylwyr. Rwy’n credu fod hyn yn dangos y bydd landlordiaid sydd eisoes yn gyfrifol yn gweld y cynnig fel fframwaith da i barhau i gynnal a chadw cartrefi diogel tra hefyd yn llywio gwelliant pellach mewn ffordd gyson ar draws y sector.


Ar ôl rhentu cartrefi fy hun yn y gorffennol, gallaf yn ddweud gyda sicrwydd nad oes gan bob landlord preifat yr un agwedd at iechyd a diogelwch landlord ag sydd gan y rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Byddwn felly’n gobeithio, fel rhan o’r ymateb i Adroddiad Hackitt a’r ffocws presennol ar faterion diogelwch yn y sector, y gellir defnyddio’r gwaith y gwnaethom ei roi yn y cynnig hwn yn y dyfodol i helpu fframio disgwyliadau ar yr holl sector rhent.”


Medrir gweld y Cynnig Tryloywder Diogelwch yma.