Jump to content

28 Medi 2016

Pryderon am gyllid rhaglen sy'n newid bywydau

Mae ofnau cynyddol y gallai cyllid gael ei dorri i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae Bethan Jenkins AC, Plaid Cymru, yn codi'r pryderon hyn yn y Cynulliad heddiw (ddydd Mercher 28 Medi). Mae pryder sylweddol am ddyfodol cyllid y rhaglen Cefnogi Pobl ac mae Plaid Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu'r rhaglen rhag unrhyw doriadau ariannol yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Dywed Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a Cymorth Cymru fod y rhaglen Cefnogi Pobl yn hollbwysig i fwy na 60,000 o bobl y flwyddyn sydd mewn risg o ddod yn ddigartref ac yn ynysig.

Mae hyn yn cynnwys rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig, yn ogystal â phobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol ac anableddau dysgu, cyn aelodau'r lluoedd arfog a phobl hŷn.Cafodd mwy na 750,000 o fywydau eu trawsnewid ers dechrau'r rhaglen yn 2004.

Lansiodd y sefydliadau ymgyrch Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl ar ôl i gyllid gael ei ostwng ddwy flynedd yn ôl. Maent yn bryderus y gallai fod toriadau pellach yn nrafft gyllideb Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth 18 Hydref.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn ariannu gwasanaethau gwerthfawr tu hwnt i aelodau mwyaf difreintiedig ein cymunedau. Yn yr hirdymor mae'n gostwng y galw ar wasanaethau eraill, gan arbed arian i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Deallwn fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth y gronfa. Fe wnaeth ei diogelu'r llynedd, ond mae'n gyfnod ansicr a gobeithiwn y bydd yn gwneud hynny eto."

Meddai Auriol Miller, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru: "Mae'r cyllid hwn yn cadw pobl yn ddiogel ac annibynnol. Mae'n un o'r rhaglenni sy'n newid y rhan fwyaf o fywydau yng Nghymru, ac mae'n rhaid ei harbed. Dim ond £46 yr wythnos ar gyfartaledd y mae'n ei gostio i gefnogi pob person ar y rhaglen - nid yw hyn yn llawer iawn o arian i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ac mae'r costau y mae'n eu harbed fel canlyniad yn enfawr."

Mae Tina, 50 oed o Flaenau Gwent, yn un o'r rhai a gaiff ei helpu gan y rhaglen Cefnogi Pobl.

Ar ôl cael cefnogaeth gan Cymorth i Fenywod i ddianc o berthynas lle'r oedd yn cael ei cham-drin, roedd yn ddigartref ac yn cysgu ar y soffa yn nghartrefi pedwar aelod gwahanol o'i theulu a chartrefi ffrindiau.

Bu Lea Grubb, gweithiwr Gwasanaeth Cymorth Pobl Hŷn Linc Cymru sy'n derbyn cyllid gan raglen Cefnogi Pobl yn helpu Tina gyda chefnogaeth ar fudd-daliadau a rhedeg ei chartref ei hun.

Dywedodd Lea: "Byddaf yn parhau i gefnogi Tina nes ei bod wedi setlo ac yn gallu byw'n annibynnol. Bu'n hyfryd gweld y gwahaniaeth a wnaeth i'w bywyd. Dyma'r math o ganlyniadau cadarnhaol y mae Cefnogi Pobl yn eu cael."