Jump to content

03 Rhagfyr 2018

Prosiect newydd Melin ar gyfer disgyblion Torfaen

Prosiect newydd Melin ar gyfer disgyblion Torfaen
Mae Cartrefi Melin wedi lansio ei brosiect newydd FACE i ysbrydoli pobl ifanc ac i ddangos y rôl y gall cymdeithasau tai ei chwarae wrth wella llesiant mewn cymunedau.


Cymerodd disgyblion ran mewn nifer o weithgareddau fel rhan o'r prosiect, yn cynnwys gweithdai profiad gwaith a gynhaliwyd yn swyddfa Melin i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector tai ac ymarferion adeiladu tîm yn y Velodrome yng Nghasnewydd.


Mae Ysgol Gyfun Abersychan yn un o'r 16 o ysgolion sy'n cael budd o FACE, ac mae'r pennaeth Phil Collins yn frwdfrydig iawn am y rhaglen.


Dywedodd, "Rydym wrth ein bodd gyda'r berthynas gadarnhaol sydd wedi datblygu rhwng yr ysgol a Cartrefi Melin drwy ein partneriaeth Dosbarth Busnes. Mae'r rhaglen wedi rhoi amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd i'n disgyblion a hefyd staff sydd wedi cynyddu uchelgais, hunanhyder a gwella llesiant o fewn yr ysgol.


"Edrychwn ymlaen at lawer mwy o gyfleoedd cyffrous dros y flwyddyn nesaf."


Dywedodd Rhiannon, myfyrwraig yn Ysgol Gyfun Abersychan: "Rwyf wedi mwynhau sesiynau FACE yn fawr iawn. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus yn fy ngallu i gysylltu gyda'r myfyrwyr eraill."


Mae Cartrefi Melin yn cydnabod pwysigrwydd datblygu, annog a hybu pobl ifanc heddiw. Maent eisiau creu cyfleoedd i gynifer o bobl ifanc ag sydd modd, fydd yn cynyddu eu sgiliau a chryfhau cymunedau.


Nod Melin yw sicrhau y gall pobl ifanc gael mynediad i gyfleoedd, beth bynnag eu cefndir.


Dyna pam ei bod mor bwysig i ni ddangos y swyddi a'r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael yn y sector tai a pham ei bod mor bwysig i gyflawni gweledigaeth ein sector i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Darllenwch fwy am ein gweledigaeth yma.