Jump to content

29 Ionawr 2018

Prosiect ‘Lifft’ Tai Calon yn adfywio tenantiaid

Prosiect ‘Lifft’ Tai Calon yn adfywio tenantiaid
“Roeddech fel angel a ddaeth ataf mewn amser o angen, pan oeddwn ar ben fy nhennyn a nawr mae gen i obaith”.


Mae prosiect 'Lifft' Tai Calon a lansiwyd ym mis Ebrill 2017 yn helpu Blaenau Gwent i gynnal eu llety drwy gynnig gwasanaeth siop un-stop ar gyfer cefnogi tenantiaid. Mae'r tîm yn helpu tenantiaid i ddod yn hunanddigonol drwy gynnig cefnogaeth emosiynol, rhannu gwybodaeth a'u helpu i osod nodau.


Mae staff yn defnyddio dull sgiliau ymddygiadol gwybyddol blaengar i hwyluso newid, sy'n anelu i ddelio'n unongyrchol gyda gwreiddiau'r broblem a all achosi ymddygiad negyddol. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ddyfodol a llesiant tenantiaid a'u sefylfa gymunedol a thai. Dangosodd arolwg gyda defnyddwyr gwasanaeth fod 94% yn fodlon gyda'r gefnogaeth a gawsant a bod llesiant cleientiaid wedi cynyddu gan 17%.


Fel canlyniad i'r gwasanaeth, mae cynhwysiant a gallu preswylwyr wedi cynyddu; maent yn fwy cydnerth i ddelio gyda heriau dyddiol, gan deimlo'n sefydlog a diogel, wedi medru cynnal sicrwydd cartref beth bynnag y ddaliadaeth, a chynyddu uchelgais a chynhwysiant cymdeithasol.


Un tenant a fanteisiodd o 'Lifft' yw Rose*, sy'n dioddef gydag iselder difrifol. Roedd yn meddwl am hunanladdiad oherwydd problemau iechyd, a gofynnodd am gefnogaeth gan ei gweithiwr cefnogaeth, Lisa*. Teimlai Rose fod ei phroblemau'n cael eu hanwybyddu felly gweithiodd Lisa gyda swyddogion iechyd proffesiynol ac ysgrifennodd lythyrau cefnogi i sicrhau fod problemau iechyd Rose yn cael eu trin.


Diolch i help Lisa, mae Rose yn awr wedi derbyn y gefnogaeth emosiynol roedd ei hangen i ddatrys ei phroblemau iechyd. Mae'n teimlo'n fwy cadarnhaol am ei dyfodol ac nid yw'n meddwl am hunanladdiad erbyn hyn. Cafodd gweithgareddau cymdeithasol eu trefnu i gysylltu Rose gyda'r gymuned. Mae hyn wedi ei helpu i gynnal ei thenantiaeth a hefyd i gael ymdeimlad o werth a gwella llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae'n awr yn teimlo'n fwy gobeithiol am ei dyfodol ac yn fwy cydnerth wrth ddelio gyda phroblemau.