Jump to content

16 Ionawr 2018

Prosiect cymunedol Cymdeithas Tai Rhondda yn helpu tenantiaid i ymdrechu a ffynnu

Prosiect cymunedol Cymdeithas Tai Rhondda yn helpu tenantiaid i ymdrechu a ffynnu
“Mae wedi helpu fy hyder. Rwyf wedi ymuno â grŵp a gwneud pethau nad wyf erioed wedi eu gwneud o’r blaen. Rwy’n bwriadu aros yn egniol a newid fy ffordd o fyw er gwell.”


Ym Mehefin 2017, lansiodd Cymdeithas Tai Rhondda brosiect iechyd a llesiant gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i wella iechyd a chysylltiadau cymdeithasol tenantiaid. Sefydlwyd ‘Strive and Thrive’ i ennyn diddordeb tenantiaid wrth eu cyflwyno i ffyrdd iachach o fyw a gweithgareddau chwaraeon trwy gefnogaeth mentoriaid profiadol.


Er pan sefydlwyd ‘Strive and Thrive’ mae 61 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, pêl-droed, rygbi, golff, seiclo, sgiliau goroesi mewn anialwch, canŵio, dringo, cerdded Nordig, ymwybyddiaeth ofalgar, sesiynau cynghori maethol a dosbarthiadau ymarfer glan llyn.


Trwy’r prosiect mae Tai Rhondda wedi lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella iechyd unigolion a’u teuluoedd. Mae hefyd wedi gweld cynnydd mewn gwirfoddoli, cyfleoedd hyfforddi, a phrosiectau cymunedol ac yn ddiweddar fe sefydlodd grŵp cyfeillgarwch i wrthsefyll unigrwydd ac arwahanrwydd.