Jump to content

21 Rhagfyr 2018

Prif Weithredydd Hafan Cymru yn ennill gwobr Prif Swyddog Gweithredol Ysbrydoledig ac Arloesol

Prif Weithredydd Hafan Cymru yn ennill gwobr Prif Swyddog Gweithredol Ysbrydoledig ac Arloesol
Ymunodd Siân Morgan â Hafan Cymru fel Prif Weithredydd ym mis Ionawr 2016 ac ers hynny bu'n gyfrifol am reolaeth dydd-i-ddydd a gweithredu'r cynllun busnes. Cafodd hefyd ei phenodi'n ddiweddar yn Is-gadeirydd Cymorth Cymru sy'n cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a darparwyr gwasanaethau i'r digartref.


Yn fwyaf diweddar, mae Siân yn dathlu derbyn gwobr Prif Swyddog Gweithredol Ysbrydoledig ac Arloesol yn y sector elusennol yng Ngwobrau CEO UK 2018.


Wrth siarad am y wobr, dywedodd Siân:


"Roeddwn yn synnu'n fawr ond wrth fy modd clywed i mi gael fy enwebu ar gyfer y wobr; rhoddodd i mi'r gydnabyddiaeth fy mod yn mynd â'r busnes ar y daith gywir.


"Pan ymunais â Hafan Cymru roedd datgysylltiad rhwng y cysyniad o arweinyddiaeth a'r hyn a wnâi staff gyda'r cysyniad hwnnw. Felly roedd y sefydliad yn gorffwys ar ei rwyfau, gyda diffyg arweinyddiaeth. Roedd y 12 mis cyntaf yn anodd ac roeddwn yn wynebu llawer o rwystrau, fodd bynnag gallodd y Pennaeth Cyllid a finnau fynd i'r afael yn llwyddiannus â phroblemau llif arian a gyda'n gilydd fe wnaethom gyflwyno prosesau a gweithdrefnau ariannol newydd i dynhau gwariant y busnes. Y peth nesaf oedd adolygu strwythur y sefydliad a gostwng gorbenion uchel y Brif Swyddfa. Bûm yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Rheoli i gytuno ar y strwythur trefniadol fyddai'n sicrhau fod gennym y sgiliau cywir yn y lle cywir gyda'r prosesau a gweithdrefnau cywir. Mae gennym bellach fusnes sy'n meddwl ac yn ymddwyn mewn modd masnachol; rydym yn ennill contractau newydd buddiol, wedi ennill safon Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddiweddar a chael adroddiad rhagorol gan ein harchwilwyr allanol. Cyflawnwyd hyn i gyd o fewn cyfnod o 18 mis.


"Rwy'n credu fod staff angen teimlo y caiff eu llais ei glywed a'u bod yn cael eu deall, ac i sicrhau y cymerwyd camau ac y cyflawnwyd ymrwymiad ac addewidion. Byddaf yn parhau i sicrhau fod pawb yn y sefydliad yn ystyried eu hunain fel arweinwyr yn eu maes a byddaf yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwrthwynebiad ac yn parhau i hyrwyddo dewrder a chydnerthedd i'n galluogi i barhau ar ein taith newid."