Jump to content

25 Hydref 2017

Prif Weinidog yn cyhoeddi na weithredir y cap LHA i'r sector tai cymdeithasol

Cyhoeddodd Theresa May yng Nghwestyniau'r Prif Weinidog heddiw na chaiff y cap Lwfans Tai Lleol (LHA) ei weithredu ar gyfer y sector tai cymdeithasol. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn ein galwad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthdroi'r polisi yn dilyn cyhoeddi ein hadroddiad ymchwil.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn hynod falch fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw na chaiff y cap LHA ei weithredu i'r sector tai cymdeithasol. Dangosodd yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe fod y polisi yn wallus a hollol anymarferol, ac y byddai wedi gwneud tai cymdeithas yn anfforddiadwy i'r rhai sydd fwyaf ei angen. Rydym yn awr yn disgwyl manylion pellach, yn arbennig y cyhoeddiad pellach ar dai â chymorth ar 31 Hydref".